T. J. Morgan

Oddi ar Wicipedia
T. J. Morgan
Ganwyd22 Ebrill 1907 Edit this on Wikidata
Y Glais Edit this on Wikidata
Bu farw1986 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson dysgedig, ysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantRhodri Morgan, Prys Morgan Edit this on Wikidata

Athro ac awdur oedd Thomas John Morgan (22 Ebrill 19079 Tachwedd 1986),[1] neu T. J. Morgan. Roedd yn dad i'r gwleidydd Rhodri Morgan a'r hanesydd Prys Morgan.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni yn Ynys-y-mwn ym mhentref Y Glais, ger Abertawe, i deulu o weithwyr diwydiannol. Fe'i addysgwyd ym Mhrifysgol Abertawe, a Choleg Prifysgol, Dulyn. Priododd Huana Rees (ganwyd 21 Ebrill 1906) yng Nghapel Moriah, Ynystawe, Abertawe ar 7 Ebrill 1935. Ganwyd eu meibion, Rhodri a Prys yng Nghaerdydd.

Bu farw yn Bishopston yn 1986 a bu farw ei wraig yn Rhagfyr 2005.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ei yrfa academaidd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, ac yna, wedi cyfnod yn was sifil yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i penodwyd yn Gofrestrydd Prifysgol Cymru ym 1951.

Dychwelodd i Abertawe ym 1961 yn Athro'r Gymraeg, a bu yn y swydd honno nes iddo ymddeol.

Ystyrir mai e waith ysgolheigaidd pwysicaf yw ei gyfrol Y Treigladau a'u Cystrawen, a gyhoeddwyd ym 1952.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Phillip Stribe. Ymchwil Achau - "Descendants of William Phillips". Adalwyd ar 3 Chwefror 2015.
  2.  Proffil - T. J. Morgan. BBC. Adalwyd ar 3 Chwefror 2016.


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.