Rhod Gilbert

Oddi ar Wicipedia
Rhod Gilbert
GanwydRhodri Paul Gilbert Edit this on Wikidata
18 Hydref 1968 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr, digrifwr stand-yp Edit this on Wikidata

Digrifwr Cymreig yw Rhod Gilbert (ganwyd 18 Hydref 1968) a gychwynodd fel digrifwr stand-yp cyn mynd ymlaen i ymddangos a chyflwyno nifer o raglenni teledu a radio.

Fe'i enwebwyd am Wobr Newydd-Ddyfodiad Gorau Perrier yn 2005 ac yn 2008, fe'i enwebwyd am y brif Wobr Comedi Caeredin.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rhodri Paul Gilbert yng Nghaerfyrddin yn un o dri o blant. Roedd ei fam a'i dad yn athrawon. Aeth i Ysgol Maridunum ac yna ymlaen i astudio ieithoedd ym Mhrifysgol Caerwysg. Am y tair wythnos gyntaf yn y coleg roedd ei swildod cymaint fel na allodd fwyta gyda gweddill y myfyrwr yn y cantîn, na gwneud ffrindiau gyda'r myfyriwr yn y stafell drws nesaf.

Fideo o Rhod Gilbert yn trafod bwyd Cymreig.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi iddo raddio teithiodd cryn dipyn, yn enwedig gwledydd Awstralia ac Asia. Dychwelodd i Gaerfyrddin ar ôl blwyddyn a chafodd ei benodi i wneud gwaith gweinyddol yn y Y Swyddfa Gymreig.[2]

Dechreuodd weithio fel digrifwr proffesiynol yn 2002.[3]

Teledu[golygu | golygu cod]

  • Rhod Gilbert's Teen Tribes
  • Rhod Gilbert's Work Experience (2010-)
  • Ask Rhod Gilbert (2010-2011)
  • Never Mind the Buzzcocks (2014-2015)
  • The Apprentice: You're Fired! (2016-2018)

Radio[golygu | golygu cod]

  • The Rhod Gilbert Radio Show

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Armstrong, Stephen (24 Awst 2008). "Why the if.comedy shortlist is intriguingly short". The Times. London, UK. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2009. Unknown parameter |subscription= ignored (help)
  2. "Rhod Gilbert". BBC Wales Arts. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2012.
  3. the if.comedy shortlist is intriguingly short gan The Times; 2008-08-24.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.