Gwasanaeth sifil

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwasanaeth Sifil)
Jump to navigation Jump to search

Mae'r term gwasanaeth sifil yn gyffredinol yn cyfeirio at wasanaethu anfilwrol cyflogedig mewn swyddfa an-etholedig o fewn adran weithredol llywodraeth. Nid yw'r term yn cymhwyso gwasanaethu yn adrannau deddfwriaethol a chyfreithiol llywodraeth. Diffinir gwas sifil fel un sydd yn gweithio i adran neu asiantaeth lywodraethol yn y sector cyhoeddus. Mae'r term wastad yn cynnwys gweithwyr cyflogedig y wladwriaeth sofranaidd; p'un a gynhwysir gweithwyr rhanbarthol, is-wladwriaethol neu fwrdeistrefol yn amrywio o wlad i wlad. Er enghraifft, yn y Deyrnas Unedig gweithwyr y Goron yn unig sydd yn weision sifil, ac nid gweithwyr sirol neu ddinasol. Ystyrir astudiaeth y wasanaeth sifil yn aml i fod yn rhan o faes gweinyddiaeth gyhoeddus.

Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.