Castell Goetre

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Castell Goetre (bryngaer))
Castell Goetre
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1392°N 4.0426°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN60325095 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD107 Edit this on Wikidata

Bryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, wedi'i lleoli ger Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, yw Castell Goetre.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Saif y gaer hon ar y cefn o dir sy'n gorwedd rhwng dyffrynoedd afon Teifi ac afon Dulas; ceir hen lwybr, cynhanesyddol efallai, ar hyd y cefn o dir. Mae'r gaer ar ffurf gorlan hirgron wedi'i hamgylchynu gan gloddiau a ffosydd gyda chlawdd arall yn rhedeg trwy ei chanol gan ei rhannu'n ddau; mae hynny'n awgrymu o leiaf dau gyfnod o adeiladu.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD107.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwybodaeth (pdf) Archifwyd 2011-11-22 yn y Peiriant Wayback. ar wefan cambria.org.
  2. Cofrestr Cadw.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  5. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.