Caer Bentir y Penrhyn Du

Oddi ar Wicipedia
Caer Bentir Trwyn Ddu
Mathcaer bentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHaroldston West Edit this on Wikidata
SirYr Hafanau Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.79502°N 5.105179°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM8597015270 Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolOes yr Haearn Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE265 Edit this on Wikidata

Caer bentir o Oes yr Haearn yw Caer Bentir y Penrhyn Du (Saesneg: Black Point Rath), Sir Benfro, sydd wedi'i amddiffyn yn rhannol gan glogwyni serth i'r Gorllewin a'r De. Rhwng 1889 a 1970 nid oedd llawer o erydu ond ers y 1970au, mae'r safle'n fregus iawn a llawer o'r gaer wedi diflannu i'r môr. Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif NPRN unigryw: 305331 a chyfeirnod grid OS: SM8597015270.[1]

Mae map Arolwg Ordnans 1889 yn dangos fod y gaer wedi'i hamddiffyn gan glawdd crwm tua 120m o hyd gyda ffos allanol i'r gogledd a'r dwyrain. Roedd y fynedfa rhwng terfyn y banc yn y pen deheuol ac ymyl y clogwyni. Roedd yn mesur tua 120m o'r Gorllewin i'r Dwyrain a 35m o'r Gogledd i'r De; mae'n debygol hefyd, erbyn 1889 fod rhan sylweddol eisoes wedi'i golli i'r môr.[2]

Erbyn y 2000au roedd y difrod yn gwaethygu o ddydd i ddydd. Mae'n debyg bod y gaer heddiw rhwng 5m a 10m yn is nag yr oedd 100 mlynedd yn ôl, gyda chraciau enfawr wedi agor dros ei harwyneb sy'n gwneud ymweld â'r safle'n beryglus iawn. Yn eironig, oherwydd yr hollti a'r suddo hyn, mae tu fewn y cloddiau i'w gweld, a daeth yn amlwg sut y crewyd y clawdd amddiffynnol. Saif y clawdd dros 3m o uchder yn fewnol a thros 5m uwchben gwaelod y ffos.

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd y bryngaerau pentir hyn, a hynny llawer cyn y goresgyniad Rhufeinig; cafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. https://coflein.gov.uk/en/site/305331/ Gwefan Coflein; adalwyd 3 Ebrill 2024.