Buarth y Gaer

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Buarth y Gaer, Mynydd y Gaer)
Jump to navigation Jump to search

51°38′N 3°47′W / 51.63°N 3.78°W / 51.63; -3.78 (Buarth y Gaer, Mynydd y Gaer.)

Buarth y Gaer
Buarth y Gaer
Buarth y Gaer, Llansawel

Mae Buarth y Gaer yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ar Fynydd y Gaer ger Llansawel yn sir Castell-nedd Port Talbot, Cymru; cyfeirnod OS: SS765939.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhan o gloddiau Buarth y Gaer gyda Port Talbot yn y cefndir.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: GM054.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  3. Gwefan y BBC
  4. Gwefan CPAT