Craig Gwrtheyrn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bryngaer Craig-Gwrtheyrn)
Jump to navigation Jump to search

52°02′N 4°17′W / 52.04°N 4.29°W / 52.04; -4.29 (Craig Gwrtheyrn.)

Craig Gwrtheyrn
Craig Gwrtheyrn
Craig Gwrtheyrn, Llanfihangel-ar-Arth
Bryngaer Craig Gwrtheyrn

Mae Craig Gwrtheyrn yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Llanfihangel-ar-Arth yn Sir Gaerfyrddin, Cymru; cyfeirnod OS: SN433402.

Gwrtheyrn[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debygol mai at y brenin Gwrtheyrn y mae'r enw yn cyfeirio. Brenin Brythonaidd o ganol y 5g oedd Gwrtheyrn (Lladin: Vortigernus), yn ôl traddodiad. Dywedir mai ef fu'n gyfrifol am wahodd y Sacsoniaid i Ynys Prydain. Nid oes sicrwydd a yw'n gymeriad hanesyddol ai peidio.

Yn ôl un fersiwn o chwedl Gwrtheyrn, ar ôl ffoi am loches i Gymru priododd ei ferch ei hun, a chafodd ei felltithio am hynny gan Sant Garmon. Llosgwyd ef a'i wragedd gan dân o'r nefoedd yng Nghaer Gwrtheyrn.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif y fryngaer hon ar safle cryf i'e de o Afon Teifi. Mae amddiffynwaith cryf o waith cerrig yn dilyn ffurf naturiol y bryn. Ceir dwy ffos wrth y brif fynedfa ar ochr dde-orlelwin y gaer sy'n ffurfio math o barbican a cheir nifer o gerrig miniog chevaux-de-frise ar y tir tu allan hefyd i gryfhau'r amddiffyn. Mae'r chevaux-de-frise hyn yn angyffredin yng Nghymru.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CM023.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978).
  2. Cofrestr Cadw.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. Gwefan y BBC
  5. Gwefan CPAT