Rhuthun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BOTarate (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: de:Ruthin [r5541]
→‎Dolenni allanol: Tydi'r ddolen Cymraeg ddim yn gweithio
Llinell 43: Llinell 43:


==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==
* [http://www.rhuthun.info Gwefan swyddogol Cyngor y Dref. Botwm i'r wefan Gymraeg]
* {{eicon en}}[http://www.rhuthun.info Gwefan swyddogol Cyngor y Dref]
* [http://www.rhuthun.info/photo_gallery/photo_gallery.htm Lluniau]
* [http://www.rhuthun-brieg.com/ Gwefan gefeillio Rhuthun - Brieg]
* [http://www.rhuthun-brieg.com/ Gwefan gefeillio Rhuthun - Brieg]
* {{eicon en}} [http://rhuthun.blogspot.com/ Blog Rhuthun]
* {{eicon en}} [http://rhuthun.blogspot.com/ Blog Rhuthun]

Fersiwn yn ôl 19:54, 5 Gorffennaf 2008

Rhuthun
Sir Ddinbych
Yr Hen Lys a Carchar Rhuthun (1401), Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun

Mae Rhuthun yn dref fach, oedd â phoblogaeth o 5,218 yn 2001 (47% gwryw, 53% benyw, oed cyfartaledd 43.0). Hi yw tref sirol Sir Ddinbych, ac fe'i lleolir ar lan Afon Clwyd yn ne Dyffryn Clwyd. Mae'r A494 a'r A525 yn rhedeg trwyddi. Mae gan y dref hen gastell, a adeiladwyd tuag 1280, ond cafodd ei ddymchwel ar ôl y Rhyfel Cartref, ac fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19eg ganrif. Mae Rhuthun wedi ei chyfeillio â thref Brieg, Llydaw.

Hanes

Codwyd castell yn Rhuthun gan Edward I o Loegr tua'r flwyddyn 1280.

Ar 16 Medi, 1400, llosgodd Owain Glyndŵr dref Rhuthun i lawr, heblaw'r castell. Mae plac yn nodi'r ffaith hon ar fanc y Nat West, yr adeilad o flaen yr un presenol a losgwyd gyntaf gan Owain. Ymunodd llawer o drigolion Rhuthun gydag Owain gan ymosod wedyn ar Ddinbych, Rhuddlan ac yna Fflint. Ar y plac mae dyfyniad o waith y prifardd Robin Llwyd ab Owain:

'Yn dy galon di... Glyn Dŵr!'

Yn ddiweddar agorwyd drysau Tŷ Nantclwyd (neu Nantclwyd y Dre) i'r cyhoedd, adeilad sy'n dyddio nol i oddeutu 1445.

Gall y cyhoedd hefyd ymweld â'r Hen Garchar a adferwyd yn ôl i'w ogoniant cynnar yn ddiweddar. Dyma'r carchar a enwogwyd yn y gerdd:

Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn, A'i wedd yn ddigon trist...


Yn ôl yr hanesydd Peter Smith (gweler Gwyddoniadur Cymru), 'Tan y 18ed ganrif roedd y rhan fwyaf o drefi Cymru yn frith o dai du a gwyn (megis Ty Nantclwyd y Dre). Bellach, dim ond Rhuthun sydd ar ôl. Dylid ei gwarchod yn ofalus fel cofeb genedlaethol, fel yr atgof olaf sydd gennym...'


Pobol sy'n gysylltiedig â Rhuthun


Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973. Am wybodaeth bellach gweler:


Dolenni allanol