Yr Wyddgrug: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Teipio
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
→‎Addysg: Gormod o 'Y mae' ar wici!
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 29: Llinell 29:


==Addysg==
==Addysg==
Y mae dwy ysgol uwchradd yn Yr Wyddgrug, [[Ysgol Alun]] (Saesneg ei hiaith) ac [[Ysgol Maes Garmon]] (Cymraeg ei hiaith).
Ceir dwy ysgol uwchradd yn Yr Wyddgrug, [[Ysgol Alun]] (Saesneg ei hiaith) ac [[Ysgol Maes Garmon]] (Cymraeg ei hiaith).


==Enwogion==
==Enwogion==

Fersiwn yn ôl 12:53, 14 Mawrth 2016

Cyfesurynnau: 53°09′58″N 3°07′59″W / 53.166°N 3.133°W / 53.166; -3.133
Yr Wyddgrug

Stryd Fawr yr Wyddgrug adeg y Nadolig.
Yr Wyddgrug is located in Cymru
Yr Wyddgrug

 Yr Wyddgrug yn: Cymru
Poblogaeth 9,568 (Cyfrifiad 2001)
Cyfeirnod grid yr AO SJ237640
Sir Sir y Fflint
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost YR WYDDGRUG
Rhanbarth cod post CH7
Cod deialu 01352
Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Delyn
Cynulliad Cymru Delyn
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •
Yr Wyddgrug o gyfeiriad Bryniau Clwyd.
Ffordd Caer, Yr Wyddgrug.

Tref yn Sir y Fflint yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw'r Wyddgrug. Mae hi'n gorwedd ar groesffordd hanner ffordd rhwng Rhuthun i'r gorllewin a Chaer i'r dwyrain. Mae'r A494 yn pasio'r dref i'r dwyrain. Tu ôl i'r Wyddgrug mae'r tir yn codi i lethrau coediog Bryniau Clwyd. Ystyr yr enw yw "bryncyn neu dwmpath uchel" (yr un ystyr ag enw Saesneg y dref, Mold: o'r Ffrangeg Normanaidd Monthault sy'n golygu "bryn uchel"). Yn ôl yr Athro Hywel Wyn Owen, mae'n debycach mai'r un 'gŵydd' yw hwn ac 'yn eich gŵydd' hy 'golwg' ac mai ystyr Yr Wyddgrug felly yw 'Bryn Amlwg'.[1]

Hanes

Yn ôl traddodiad, ymladdwyd Brwydr Maes Garmon ar lecyn tua milltir i'r gorllewin o'r dref bresennol yn OC 430. Enillodd y Cymry y dydd, dan arweiniad Sant Garmon, yn erbyn eu gelynion paganaidd.

Cynhelid llys ar gylch Llywelyn ap Gruffudd yn y Wyddgrug ar 22 Gorffennaf, 1273. Roedd gan y Wyddgrug ei gastell yn yr Oesoedd Canol a nodir ei safle gan Fryn y Beili, sy'n ardd gyhoeddus bellach. Ym 1245, cafodd ei gipio gan Dafydd ap Llywelyn.

Addysg

Ceir dwy ysgol uwchradd yn Yr Wyddgrug, Ysgol Alun (Saesneg ei hiaith) ac Ysgol Maes Garmon (Cymraeg ei hiaith).

Enwogion

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Yr Wyddgrug (pob oed) (10,058)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Yr Wyddgrug) (2,051)
  
21.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Yr Wyddgrug) (6055)
  
60.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Yr Wyddgrug) (1,654)
  
38.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug ym 1923, 1991 a 2007. Am wybodaeth bellach gweler:

Oriel

Cyfeiriadau

  1. Dictionary of the Place-Names of Wales; gol: Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; Gwasg Gomer (2007); tud 326
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: