Neidio i'r cynnwys

Maeshafn

Oddi ar Wicipedia
Maeshafn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1401°N 3.1945°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ201610 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Maeshafn ("Cymorth – Sain" ynganiad ), a leolir ger y ffin rhwng y sir honno a Sir y Fflint tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o'r Wyddgrug.

Gorwedd y pentref mewn ardal wledig ar lôn sy'n ei gysylltu â'r briffordd A494, sy'n mynd heibio i'r gogledd o Faeshafn. Y pentref agosaf yw Llanferres a'r goedwig agosaf yw Y Goedwal Fawr, Maeshafn, lle ceir ogof gydag olion cynhanes nodedig.

Bu i’r capel yn y pentref gael ei werthu yn y flwyddyn 2000 a’r aelodau yn ymuno gyda chapel Soar, Nercwys, dwy filltir i ffwrdd. Y Miner's Arms yw'r dafarn leol. Ar un adeg bu Maeshafn yn bentref mwyngloddio, yn gartref i weithwyr ym mwyngloddiau plwm y fro. Ceir hen chwareli calchfaen gerllaw hefyd.

Canol Maeshafn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato