Y Goedwal Fawr, Maeshafn

Oddi ar Wicipedia
Y Goedwal Fawr
Mathcoedwig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.131°N 3.199°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ198601 Edit this on Wikidata
Map

Coedwig ar ben bryn ger Maeshafn, Sir Ddinbych, yw'r Goedwal Fawr (Saesneg: Big Covert).[1] Yn y bôn, coed ffawydd yw’r goedwal, er bod yno coed eraill, megis coed pinwydd, llarwydd, sycamor, ynn, bedw a chriafol.[2] Mae’r coedwig yn sefyll ar Galchfaen, ac mae hen chwarel calchfaen ar ochr ddwyreiniol y bryn.

Mae ogof yn y goedwal, sydd yn estyn dros 15 medr dan ddaear. Cloddiwyd yr ogof ym 1949. Darganfuwyd 6 safle claddu a nifer o arteffactau o Oes yr Efydd.[3][4]

Yr ogof

Gwelir gwyfynnod yn y goedwal, gan gynnwys Brith y llwyf, Crych Blomer a Seffyr y ffyrch ymysg eraill[5]. Gwelir hefyd Blodau'r Gwynt, Clychau'r Gog, Mintys a Suran y Coed.

Mae haen o blwm yn rhedeg trwy’r bryniau calchfaen rhwng Prestatyn a’r Mwynglawdd, yn pasio dros Mynydd Helygain a heibio Maeshafn[6] ac roedd pyllau plwm yn y Goedwal Fawr, yn ogystal ag Aberduna a’r holl ardal leol[7]. Gwelir ambell siafft yn y Goedwal Fawr hyd at heddiw.


Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 24 Tachwedd 2021
  2. "Gwefan Woods4Sale". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-08. Cyrchwyd 2020-10-05.
  3. Gwefan Coflein
  4. Gwefan welshjournals.llgc.org.uk
  5. Tudalen flickr Clive Jones
  6. Gwefan moldcivicsociety.org.uk
  7. Gwefan CPAT