Mynydd Helygain
| Math | bryn, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir y Fflint |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 293.8 metr |
| Cyfesurynnau | 53.23917°N 3.2075°W |
| Cod OS | SJ1957471926 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 31 metr |
| Rhiant gopa | Mynydd y Cwm |
![]() | |
Bryn a rhostir yng nghanol Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Mynydd Helygain. Mae'n gorwedd ar echel sy'n ymestyn o'r gogledd-orllewin, i'r de o Dreffnynnon, i'r de-ddwyrain ger pentref Rhosesmor. Bryn hirgul gyda sawl copa isel ydyw Mynydd Helygain, sy'n cyrraedd ei fan uchaf (964 troedfedd) fymryn i'r de-orllewin o bentref Helygain. Mae'n cwmpasu 1,700 acer.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Ar lethrau gogledd-ddwyreiniol Mynydd Helygain ceir Pentre Helygain a Helygain, gyda Llaneurgain i'r dwyrain. Ar y llethrau gorllewinol ceir Rhosesmor a'r Walwen ac i'r de ceir Rhes-y-cae. Mae'n gorwedd rhwng Bryniau Clwyd i'r gorllewin a gwastadedd arfordir Glannau Dyfrdwy i'r dwyrain.
Chwareli
[golygu | golygu cod]
Yn y gorffennol ceid llawer o waith cloddio ar y bryn, e.e. am blwm yn ymyl Rhosesmor. Ceir chwarel gyfoes ger Bryn Siriol.
Cadwraeth
[golygu | golygu cod]Mae Mynydd Helygain wedi'i ddynodi'n Ardal Gadwraeth Arbennig.
