Madeira

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Madeira
Madeira 71.jpg
Coat of arms of Madeira.png
Arwyddair Das Ilhas as Mais Belas e Livres Edit this on Wikidata
Math autonomous region of Portugal, integral overseas territory, subregion of Portugal Edit this on Wikidata
Prifddinas Funchal Edit this on Wikidata
Poblogaeth 267,785 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1976 Edit this on Wikidata
Anthem Hino da Região Autónoma da Madeira Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Miguel Albuquerque Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Portiwgal Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Portiwgal Portiwgal
Arwynebedd 801 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Cefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 32.75°N 17°W Edit this on Wikidata
PT-30 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Legislative Assembly of Madeira Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
President of the Regional Government of Madeira Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Miguel Albuquerque Edit this on Wikidata

Clwstwr o ynysoedd o darddiad folcanig yng ngogledd Cefnfor Iwerydd yw Madeira. Mae'n un o ranbarthau ymreolaethol Portiwgal. Ynys Madeira yw'r brif ynys; mae'r ynysoedd eraill yn cynnwys Porto Santo i'r gogledd-ddwyrain a dau grŵp o ynysoedd anghyfannedd i'r de-ddwyrain: y Desertas a'r Selvagens. Yn 2011 roedd y boblogaeth yn 267,785. Y prifddinas yw Funchal a leolir ar arfordir heulog y de; mae bron i hanner y boblogaeth yn byw yn Funchal.

Mae'n nodedig am ei win (win Madeira), ac fel llecyn twristaidd, ac mae'r ynys yn cynhyrchu banana, paw paw, gellyg pigog, tomatos, siwgr câns a lemonau. Tyfir y rhain ar lethrau a dyllwyd ganrifoedd yn ôl.

Gyda'r chwaer ynys Azores, mae'n un o ddwy ranbarth ymreolaethol ym Mhortiwgal. Ceir disgrifiadau o'r ynysoedd o gyfnod y Rhufeiniaid ond nid hawliwyd yr ynys gan Bortiwgal tan 1419, a chychywynwyd ei gwladych un 1420. Dyma'r ynys gyntaf i Bortiwgal ei meddiannu, a dilynwyd hyn gan nifer o diroedd rhwng 1415 a 1542.

Mae'r gaeafau'n fwyn a'r hafau'n hir, heb fod yn rhy boeth. Daw oddeutu miliwn o ymwelwyr yma am seibiant yn flynyddol, yn benaf am ei thywydd hyfryd, ei hamrywiaeth blodau ac adar a'i golygfeydd.[1] Mae ei choedwigoedd llawryf yn hynafol ac yn cael eu gwarchod gan UNESCO, sy'n Safle Treftadaeth y Byd. Ni anrhaethwyd fauna a flora (planhigionac anifeiliaid) yr ynys gan yr Oes Iâ Ewropeaidd. Y prif harbwr yw Funchal, y brifddinas, sef porthladd mwyaf Portiwgal o ran cychod criws a llongau pleser eraill.[2] Madeira yw ail ranbarth mwyaf cyfoethog Portiwgal, o ran ei GDP (Cynnyrch mewnwladol crynswth) y pen, gyda Lisbon ychydig yn well na hi.[3]

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymhariaeth gydag Ynys Môn[golygu | golygu cod y dudalen]

Ynys Madeira Ynys Môn
Cenedl Flag of Portugal.svg
Portiwgal
Flag of Wales (1959–present).svg
Cymru
Arwynebedd km2) 801 714
Hyd (ar ei hiraf mewn km) 57 40
Mynydd uchaf (m) 1,862 220
Poblogaeth 267,785 69,700
Dwysedd y boblogaeth (/km2) 308.5 96
Arfordir (km) 150 201

Lleolir y clwstwr hwn o ynysoedd tua 520 km (280 mi) o arfordir Affrica a 1,000 km (540 mi) o Gyfandir Ewrop. Mae'r daith yno mewn awyren o brifddinas Portiwgal, sef Libbon yn awr a hanner.[4] Mae'n rhan o gefnen daearegol enfawr a geir gan fwyaf o dan y môr, sef "Cefnen Tore-Madeira". Mae'r gefnen hon yn gorwedd o'r gogledd-i'r-gogledd-ddwyrain i'r de-dde-orllewin, ac yn ymestyn am dros 1,000 cilometr (540 milltir).

Hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgrifir hinsawdd Madeia fel Hinsawdd y Canoldir (Dosbarthiad Köppen climate: Csa/Csb).[5] Ceir cryn wahaniaeth rhwng hinsawdd y gogledd a'r de, fel a geir rhwng hinsawdd yr ynysoedd hefyd. Mae'n amrywio rhwng mynyddoedd hinsawdd gwlyb a llaith (drwy'r flwyddyn) a diffeithdir sych, cras ynysoedd y Salvagen. Mae dylanwad Llif y Gwlff ar yr hoinsawdd yn drwm a gan gerrynt y Caneri, sy'n caniatau tymheredd mwynach; yn ôl Instituto de Meteorologia, tymheredd blynyddol, cyfartalog Funchal yw 19.6 °C (67.3 °F) am 1980–2010. Rhwng 1960–1990 cododd y tymheredd ar arfordir y de dros 20 °C (68 °F) mewn cyfartaledde. Ar lethrau uchaf Madeira ceir dros 50 modfedd o law y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf yn disgyn rhwng Hydref ac Ebrill.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Llifogydd Madeira 2010[golygu | golygu cod y dudalen]

Lladdwyd 43 o bobl yn y llifogydd ym Madeira ar 20 Chwefror 2010.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Hotelaria da Madeira suaviza quebras em 2010 apesar de impacto devastador dos temporais". presstur.com. October 2, 2011. Cyrchwyd 16 Medi 2011.
  2. "Madeira welcomes most cruisers". The Portugal News. Cyrchwyd 12 Mawrth 2013.
  3. "New Eurostat website - Eurostat". Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2016.
  4. "Madeira Islands Tourism". Madeiraislands.travel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 May 2010. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "World Map of Köppen−Geiger Climate Classification".