Llandysilio, Sir Benfro

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llandisilio)
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Llandysilio

Pentref a chymuned yn Sir Benfro yw Llandysilio, hefyd Llandysilio-yn-Nyfed, weithiau Llandisilio neu Llandissilio. Saif ar y briffordd A478 rhwng Arberth a Crymych, ac ychydig i'r gogledd o bentref Clunderwen. Enwir y pentref a chymuned (a'r plwyf eglwysig) ar ôl Sant Tysilio.

Ceir carreg o'r 5g yn eglwys Sant Tysilio, yn coffhau gŵr o'r enw Clutorix (Clodri). Mae'r cerflunydd Gideon Petersen yn byw yma.

Yn ôl yr hynafiaethydd George Owen, ar ddechrau'r 16g roedd ffin ieithyddol Sir Benfro, neu'r llinell Landsker, yn rhedeg trwy Llandysilio.

Yn Ionawr 1915 daeth Waldo Williams i fyw yma, gyda'i dad yn brifathro. Tri mis ar ôl symud yno bu farw ei chwaer fach Morfudd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cerddi Waldo Williams. Gwasg Gregynog, 1992; Rhagair gan J. E. Caerwyn Williams, tud 8.