Japan

Oddi ar Wicipedia
日本国
Nihon-koku
Nippon-koku

Japan
Baner Japan Sêl Ymerodraethol Japan
Baner Sêl Ymerodraethol
Arwyddair: Dim
Anthem: Kimi ga Yo
Lleoliad Japan
Lleoliad Japan
Prifddinas Tokyo
Dinas fwyaf Tokyo
Iaith / Ieithoedd swyddogol Japaneg 1
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • Ymerawdr
 • Prif Weinidog
Naruhito
Shinzō Abe
Ffurfiant
11 Chwefror 660 B.C.
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
377,835 km² (63fed)
0.8
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2017
 - Cyfrifiad [[|]]
 - Dwysedd
 
126,085,000 (10fed)
126,051,027[1]
337.1/km² (36ed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$4.835 triliwn[2] (3fed)
$38,142[2] (25ed)
Indecs Datblygiad Dynol (2008) 0.943 (11fed) – uchel
Arian cyfred Yen Japaneaidd (¥) (JPY)
Cylchfa amser
 - Haf
JST (UTC+9)
Côd ISO y wlad .jp
Côd ffôn +81

Mae Japan (Japaneg: 日本 "Cymorth – Sain" ynganiad Nihon; Nippon neu Nihon-koku) (hefyd yn Gymraeg, Siapan) yn wlad sy'n cynnwys 6,852 o ynysoedd yn nwyrain Asia; y 4 fwyaf yw Honshu, Hokkaido, Kyushu, a Shikoku. Fe'i hamgylchynnir gan y Cefnfor Tawel (Taiheiyō), Setonaikai a Môr Japan (Nihonkai). Gorwedda i'r de-ddwyrain o Rwsia, i'r dwyrain o Tsieina a Chorea ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Taiwan.

Geirdarddiad

Ecsonym yw'r gair Japan a ddatblygodd trwy lwybrau masnach cynnar, yn debygol iawn o ynganiad Tseiniaidd Wu neu Mandarin cynnar o'r gair gwreiddiol Japaneg. Yr enw Japaneg ar y wlad yw Nihon, neu yn llai aml defnyddir yr hen enw Nippon. Mae gan y ddau enw yr un ystyr sef "tarddiad yr haul", a chaiff y ddau eu hysgrifennu gan ddefnyddio'r ddau kanji 日本. Ystyr y kanji cyntaf 日 (Ni-) yw dydd neu haul; ystyr yr ail 本 (-hon) yw gwraidd, tarddiad neu lyfr.

Dinasoedd

Prifddinas Japan yw Tokyo (Tōkyō), canolbwynt wleidyddol ac economaidd y wlad. Ger Tokyo, mae dinas fawr Yokohama ynghyd â rhannau helaeth o daleithiau cyfagos yn ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 36 miliwn yn 2010 [3]. Dinasoedd mawr eraill Japan yw Osaka, Nagoya, Sapporo, Kobe, Kyoto, Fukuoka, Kawasaki a Saitama.

Daearyddiaeth

Mae 6,852 o ynysoedd yn Japan, a'r ynys fwyaf o ran maint a phoblogaeth yw Honshū sydd yn ymestyn ar hyd canolbarth y wlad. Mae tair ynys arall sy'n neilltuol o ran maint a phoblogaeth - Hokkaidō yn y gogledd, Kyūshū yn y de-orllewin a Shikoku yn y de. Mae Japan yn wlad fynyddig ac ychydig o wastadeddau sydd i'w cael sydd yn addas i fyw arnynt. Dyma'r rheswm dros y dwysedd poblogaeth uchel. Y copa uchaf yw Mynydd Fuji (富士山 Fuji-san) (3776m).

Gan fod Japan yn rhan o'r Cylch Tân (y gadwyn o losgfynyddoedd o gwmpas y Cefnfor Tawel) ceir llawer o losgfynyddoedd, daeargrynfeydd a ffynhonnau poeth yn y wlad.

Mae gan Japan 108 o losgfynyddoedd byw. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, daeth sawl llosgfynydd newydd i'r golwg, gan gynnwys Shōwa-shinzan ar ynys Hokkaido a Myōjin-shō oddi ar Greigiau Bayonnaise yn y Cefnfor Tawel. Mae daeargrynfeydd dinistriol, sy'n arwain yn aml at tswnami, yn digwydd sawl gwaith bob canrif. Bu farw dros 140,000 o bobl yn naeargryn Tokyo yn 1923.

Gwleidyddiaeth

Mae Japan yn deyrnas seneddol. Ceir Tenno (天皇Ymerawdwr) a senedd, system debyg iawn i'r hyn sydd yng ngwledydd Prydain.

Shinzo Abe o'r Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (neu'r LDP) ydy Prif Weinidog Japan ers Rhagfyr 2012.

Celf

Y celfyddydau gweledol

Tarddodd anime yn Japan, math o animeiddio gyda chryn ddylanwad manga arno. Ceir genre unigryw a marchnad enfawr ar ei gyfer ar ffurf gemau fideo hefyd, sydd wedi bod ers y 1980au.[4]

Cerddoriaeth

Mae cerddoriaeth Japan yn amrywiol iawn, ac yn adlewyrchu'r hen a'r newydd; ceir llawer o hen offerynau fel y koto sy'n mynd yn ôl i'r 9fed a'r 10g. Mae canu gwerin yn mynd nol i'r 17fed canrif. Dau o'u cyfansoddwr modern gora nhw yw Toru Takemitsu a Rentarō Taki. Ers yr Ail Ryfel Byd mae cerddoriaeth America ac Ewrop wedi dylanwadu'n fawr ac mae carioci'n bwysig iawn ganddynt.

Economi

Yn 2009 Japan oedd ail economi fwyaf y byd ar ôl yr Unol Daleithiau. Mae bancio, yswiriant, eiddo diriaethol, masnach, trafnidiaeth, telathrebu ac adeiladwaith i gyd yn ddiwydiannau mawr.[5] Mae gan Japan gynhwysedd sylweddol i gynhyrchu ar raddfa fawr, ac mae'n gartref i nifer o ddatblygiadau a newyddbethau technogol yn y meysydd moduro, electroneg, offer peiriannau, haearn a metelau anfferrus, llongau, sylweddau cemegol, tecstiliau a bwyd wedi eu prosesu.

Mae'r sector gwasanaethau yn cyfri fel dros dri chwarter o'i CMC, llawer mwy nac amaethyddiaeth a gwneuthuriaeth. Gan fod prinder o adnoddau yn y wlad, mae'n rhaid mewnforio deunyddiau crai a mwynau fel olew a haearn. Mae'r wlad yn allforio cynhyrchion technologol, er enghraifft, ceir neu gynhyrchion trydanol a chemegol.

Poblogaeth

Mae mwyafrif y bobl yn Japaneaid, a'r iaith swyddogol yw Japaneg.

Yng ngogledd y wlad mae grŵp o bobl a elwir yr Ainu yn byw. Pobl wreiddiol ardal gogledd-ddwyrain Siapan. Mae mwyafrif y tramorwyr sy'n byw yn Siapan yn dod o Frasil a Korea.

Rhanbarthau Gweinyddol

Map o daleithiau a rhanbarthau Japan

Mae 47 talaith (Saesneg: Prefecture) yn ffurffio Japan, pob un â llywodraethwr etholedig ynghyd â deddfwrfa a biwrocratiaeth weinyddol. Mae taleithiau yn cyfuno i greu rhanbarth ac yn is-rannu i greu dinasoedd, trefi a phentrefi.


1. Hokkaidō


2. Aomori
3. Iwate
4. Miyagi
5. Akita
6. Yamagata
7. Fukushima


8. Ibaraki
9. Tochigi
10. Gunma
11. Saitama
12. Chiba
13. Tōkyō
14. Kanagawa


15. Niigata
16. Toyama
17. Ishikawa
18. Fukui
19. Yamanashi
20. Nagano
21. Gifu
22. Shizuoka
23. Aichi


24. Mie
25. Shiga
26. Kyoto
27. Osaka
28. Hyōgo
29. Nara
30. Wakayama


31. Tottori
32. Shimane
33. Okayama
34. Hiroshima
35. Yamaguchi


36. Tokushima
37. Kagawa
38. Ehime
39. Kōchi


40. Fukuoka
41. Saga
42. Nagasaki
43. Kumamoto
44. Ōita
45. Miyazaki
46. Kagoshima
47. Okinawa

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Population Count based on the 2010 Census Released" (PDF). Statistics Bureau of Japan. Cyrchwyd October 26, 2011.
  2. 2.0 2.1 "Japan". International Monetary Fund. Cyrchwyd 28 June 2014.
  3. http://esa.un.org/unup/p2k0data.asp
  4. Herman, Leonard (2002). "The History of Video Games" (PDF). GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2014. Cyrchwyd 1 Ebrill 2007. Unknown parameter |coauthors= ignored (help)
  5. er 6 Manufacturing and Construction, Statistical Handbook of Japan, Ministry of Internal Affairs and Communications
Chwiliwch am Japan
yn Wiciadur.