Fukushima (talaith)
| Math | taleithiau Japan |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Fukushima Castle |
| Prifddinas | Fukushima |
| Poblogaeth | 1,825,325 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Fukushima-ken Kenmin no Uta |
| Pennaeth llywodraeth | Masao Uchibori |
| Cylchfa amser | UTC+09:00, amser safonol Japan |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Tōhoku |
| Sir | Japan |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 13,784.14 km² |
| Yn ffinio gyda | Niigata, Yamagata, Miyagi, Gunma, Tochigi, Ibaraki |
| Cyfesurynnau | 37.75028°N 140.46775°E |
| JP-07 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Fukushima prefectural government |
| Corff deddfwriaethol | Fukushima Prefectural Assembly |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | governor of Fukushima Prefecture |
| Pennaeth y Llywodraeth | Masao Uchibori |
![]() | |

Talaith yn Japan yw Fukushima neu Talaith Fukushima (Japaneg: 福島県 Fukushima-ken), wedi ei lleoli yn rhanbarth Tōhoku yng ngogledd-ddwyrain ynys Honshū. Prifddinas y dalaith yw dinas Fukushima.
Trychineb Niwclear Fukushima
[golygu | golygu cod]- Mae gennym erthygl ehangach ar y pwnc yma.
Yn dilyn daeargryn 11 Mawrth 2011 ffrwydrodd adeilad gwarchodol dau o'r chwech adweithydd niwclear atomfa Fukushima Dai-ichi a gaiff ei reoli gan TEPCO. Cododd lefel ymbelydredd led-led Japan a danfonwyd pobl o'u cartrefi o fewn radiws o 30 km. Mae 5 o weithwyr y cwmni wedi marw o ganlyniad i'w hymdrechion i wneud yr adweithyddion yn saff.[1]
Ar 11 Ebrill codwyd Lefel Rhyngwladol y drychineb o 5 i 7 sy'n ei gosod ar yr un lefel a Thrychineb Chernobyl (1986). Erbyn 29 Mawrth 2011, roedd isotopau ymbelydrol iodine-131 wedi eu canfod mewn gwledydd mor bell a Gwlad yr Iâ, Swistir a gwledydd Prydain.
