Mynydd Fuji
![]() | |
Math |
llosgfynydd byw, highest point, isolated peak, stratolosgfynydd, atyniad twristaidd, Sintaisan, mynydd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Fuji district ![]() |
| |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol |
Fuji-Hakone-Izu National Park ![]() |
Rhan o'r canlynol |
Fujisan, sacred place and source of artistic inspiration, Three Holy Mountains, 100 Famous Japanese Mountains, 100 Japanese geology, Q11502391, Q11469638 ![]() |
Sir |
Shizuoka, Yamanashi ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
19,311.9 ha ![]() |
Uwch y môr |
3,777.24 ±0.99 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
35.3625°N 138.7306°E ![]() |
Amlygrwydd |
3,776 metr ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
Fujisan Hongū Sengen Taisha ![]() |
Statws treftadaeth |
rhan o Safle Treftadaeth y Byd, Special Place of Scenic Beauty in Japan, historic site of Japan ![]() |
Manylion | |
Deunydd |
basalt ![]() |
Mynydd Fuji neu Fujiyama yw mynydd uchaf Japan. Saif ar ynys Honshū, ar y ffin rhwng taleithiau Shizuoka a Yamanashi, ychydig i'r gorllewin o Tokyo. Gellir ei weld o Tokyo ar ddiwrnod clir. Y dinasoedd agosaf ato yw Gotemba yn y dwyrain, Fuji-Yoshida yn y gogledd a Fujinomiya yn y de-orllewin.
Ysytrir Mynydd Fuji yn fynydd sanctaidd, ac mae'n symbol o Japan trwy'r byd. Mae'n llosgfynydd, er nad yw wedi dangos unrhyw arwydd o fywyd ers ffrwydrad bach yn 1707. Dywedir iddo gael ei ddringo am y tro cyntaf gan fynach dienw yn 663. Hyd ddiwedd y cyfnod Meiji yn y 19g, gwaharddwyd merched rhag ei ddringo. Erbyn hyn mae tua 200,000 yn ei ddringo bob blwyddyn. Mae wedi bod yn destun poblogaidd i arlunwyr Japan ers canrifoedd; y mwyaf enwog o'r gweithiau hyn yw 36 golygfa ar Fynydd Fuji gan Hokusai.