36 Golygfa ar Fynydd Fuji
Cyfres o brintiadau bloc pren ukiyo-e yw Tri deg chwech Golygfa ar Fynydd Fuji (Siapaneg: 富嶽三十六景, Fugaku Sanjūrokkei) gan yr arlunydd Siapaneaidd Katsushika Hokusai (1760–1849). Mae'r gyfres yn darlunio Mynydd Fuji, ar ynys Honshu, Siapan, trwy'r tymhorau ac mewn tywydd amrywiol o sawl lleoliad a phellter. Heddiw mae'n cynnwys 46 print mewn gwirionedd, a grewyd gan Hokusai rhwng 1826 a 1833. Cafwyd 36 yn y cyhoeddiad gwreiddiol ond, am iddi fod yn gymaint o lwyddiant, ychwanegwyd deg arall yn nes ymlaen.
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd printiau a darluniau o olygfeydd ar Fynydd Fuji yn destun poblogaidd gan artistiaid ukiyo-e. 36 Golygfa Hokusai yw'r enwocaf o lawer ond ceir sawl cyfres arall, yn cynnwys y gwaith o'r un enw gan Hiroshige a chyfres diweddarach gan Hokusai ei hun, sef Cant Golygfa ar Fynydd Fuji. Yn ogystal ceir nifer o brintiadau a lluniau unigol. Mae gan Fynydd Fuji lle arbennig yn niwylliant a chrefydd Siapan a dyna pam roedd yn denu cymaint o arlunwyr. Credid fod duwies wedi rhoi 'moddion bywyd' ar gopa'r mynydd ac roedd y Siapaneaid yn ystyried fod cyfrinach tragwyddoldeb ynghlwm wrth Fuji, sy'n esbonio obsesiwn Hokusai ac eraill gyda'r mynydd, efallai.
Printiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Y 36 gwreiddiol[golygu | golygu cod y dudalen]
Rh. | Delwedd | Teitl Cymraeg | Teitl Siapaneg |
---|---|---|---|
1 | ![]() |
Y Don Fawr oddi ar Kanagawa | 神奈川沖浪裏
Kanagawa oki nami-ura |
2 | ![]() |
Gwynt deheuol, awyr las (Fuji Coch) | 凱風快晴
Gaifū kaisei |
3 | ![]() |
Storm glaw islaw'r copa | 山下白雨
Sanka hakū |
4 | ![]() |
Dan Bont Mannen yn Fukagawa | 深川万年橋下
Fukagawa Mannen-bashi shita |
5 | ![]() |
Sundai, Edo | 東都駿台
Tōto sundai |
6 | ![]() |
Aoyama Enza no Matsu | 青山円座松
Aoyama enza-no-matsu |
7 | ![]() |
Senju, Musashi | 武州千住
Bushū Senju |
8 | ![]() |
Bwlch Inume, Kōshū | 甲州犬目峠
Kōshū inume-tōge |
9 | ![]() |
Golygfa ar Ffiji, Talaith Owari | 尾州不二見原
Bishū Fujimigahara |
10 | ![]() |
Ejiri, Talaith Suruga | 駿州江尻
Sunshū Ejiri |
11 | ![]() |
Siop Mitsui yn Suruga, yn Edo | 江都駿河町三井見世略図
Kōto Suruga-cho Mitsui Miseryakuzu |
12 | ![]() |
Machlud dros Bont Ryōgoku o lan afon Sumida yn Onmayagashi | 御厩川岸より両国橋夕陽見
Ommayagashi yori ryōgoku-bashi yūhi mi |
13 | ![]() |
Neuadd Sazai - Teml y Pum Cant Rakan | 五百らかん寺さざゐどう
Gohyaku-rakanji Sazaidō |
14 | ![]() |
Tŷ te yn Koishikawa ar ôl bwrw eira | 礫川雪の旦
Koishikawa yuki no ashita |
15 | ![]() |
Shimomeguro | 下目黒
Shimo-Meguro |
16 | ![]() |
Rhaeadr yn Onden | 隠田の水車
Onden no suisha |
17 | ![]() |
Enoshima yn nhalaith Sagami | 相州江の島
Soshū Enoshima |
18 | ![]() |
Glan Bae Tago, Ejiri yn Tōkaidō | 東海道江尻田子の浦略図
Tōkaidō Ejiri tago-no-ura |
19 | ![]() |
Yoshida, Tōkaidō | 東海道吉田
Tōkaidō Yoshida |
20 | ![]() |
Llwybr môr talaith Kazusa | 上総の海路
Kazusa no kairo |
21 | ![]() |
Pont Nihonbashi yn Edo | 江戸日本橋
Edo Nihon-bashi |
22 | ![]() |
Tref dollborth ar Afon Sumida | 隅田川関屋の里
Sumidagawa Sekiya no sato |
23 | ![]() |
Bae Noboto | 登戸浦
Noboto-ura |
24 | ![]() |
Llyn Hakone yn nhalaith Sagami | 相州箱根湖水
Sōshū Hakone kosui |
25 | ![]() |
Dal adlewyrchiad Mynydd Fuji yn Llyn Kawaguchi, o Fwlch Misaka yn nhalaith Kai | 甲州三坂水面
Kōshū Misaka suimen |
26 | ![]() |
Hodogaya ar Ffordd Tōkaidō | 東海道保ケ谷
Tōkaidō Hodogaya |
27 | ![]() |
Afon Tama ym Musashi | 武州玉川
Bushū Tamagawa |
28 | ![]() |
Teml Asakusa Hongan-ji ym mhrifddinas y dwyrain (Edo) | 東都浅草本願寺
Tōto Asakusa honganji |
29 | ![]() |
Ynys Tsukuda ym Musashi | 武陽佃島
Buyō Tsukuda-jima |
30 | ![]() |
Traeth Shichiri yn Sagami | 相州七里浜
Soshū Shichiri-ga-hama |
31 | ![]() |
Umegawa yn Sagami | 相州梅沢庄
Soshū umezawanoshō |
32 | ![]() |
Kajikazawa yn nhalaith Kai | 甲州石班沢
Kōshū Kajikazawa |
33 | ![]() |
Bwlch Mishima Pass yn nhalaith Kai | 甲州三嶌越
Kōshū Mishima-goe |
34 | ![]() |
Mynydd Fuji o fynyddoedd Tōtōmi | 遠江山中
Tōtōmi sanchū |
35 | ![]() |
Llyn Suwa yn nhalaith Shinano | 信州諏訪湖
Shinshū Suwa-ko |
36 | ![]() |
Ushibori yn nhalaith Hitachi | 常州牛掘
Jōshū Ushibori |
Y 10 ychwanegol[golygu | golygu cod y dudalen]
Rh. | Delwedd | Teitl Cymraeg | Teitl Siapaneg |
---|---|---|---|
1 | ![]() |
Bryn Goten-yama, Shinagawa, ar ffordd y Tōkaidō | 東海道品川御殿山の不二
Tōkaidō Shinagawa Goten'yama no Fuji |
2 | ![]() |
Honjo Tatekawa, iard coed Honjo | 本所立川
Honjo Tatekawa |
3 | ![]() |
Ardal bleser Senju | 従千住花街眺望の不二
Senju Hana-machi Yori Chōbō no Fuji |
4 | ![]() |
Nakahara yn nhalaith Sagami | 相州仲原
Sōshū Nakahara |
5 | ![]() |
Ōno Shinden yn Suruga | 駿州大野新田
Sunshū Ōno-shinden |
6 | ![]() |
Dringo ar Fuji | 諸人登山
Shojin tozan |
7 | ![]() |
Planhigfa te Katakura, Suruga | 駿州片倉茶園の不二
Sunshū Katakura chaen no Fuji |
8 | ![]() |
Fuji o Kanaya ar y Tōkaidō | 東海道金谷の不二
Tōkaidō Kanaya no Fuji |
9 | ![]() |
Y wawr yn Isawa, talaith Kai | 甲州伊沢暁
Kōshū Isawa no Akatsuki |
10 | ![]() |
Cefn Fuji o afon Minobu | 身延川裏不二
Minobu-gawa ura Fuji |
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Nagata, Seiji (1999). Hokusai: Genius of the Japanese Ukiyo-e. Kodansha, Tokyo.
- Smith, Henry D. II (1988). Hokusai: One Hundred Views of Mt. Fuji. George Brasiller, Inc., Publishers, Efrog Newydd. ISBN 0807611956.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Hokusai: 36 Golygfa ar Fynydd Fuji
- (Saesneg) Bywgraffiad Hokusai
- (Japaneg) 葛飾北斎の富士山・富嶽三十六景