Kanji

Oddi ar Wicipedia
Ystyr yr arwyddlun (kanji) hwn yw 'ysgrifennu'.

Kanji (Japaneg: 漢字) yw'r enw a roddir ar arwyddluniau Tsieineeg a gaiff eu defnyddio yn system ysgrifennu Japaneg, ynghyd â'r hiragana a'r katakana, y system rifol Indo-Arabaidd, ac yn llai aml, yr wyddor Ladin (rōmaji). Ystyr y gair kanji yw "Arwyddluniau Han" (arwyddluniau Tsieineeg). Daeth kanji i Japan yn wreiddiol o Tsieina. Mae tua 2,000 i 3,000 o kanji yn cael defnydd cyson yn Japan heddiw, er fod tua 50,000 i 100,000 ohonynt mewn geiriaduron cynhwysfawr.

Oherwydd i'r arwyddluniau hyn gael eu datblygu o fewn Japaneg, gall un kanji gael ei ddefnyddio i ysgrifennu un neu ragor o wahanol eiriau. I'r darllennydd, mae gan kanji nifer o "ddarlleniadau" gwahanol. Mae penderfynu pa un i'w ddefnyddio yn dibynnu ar y cyd-destun, ystyr, defnydd mewn cyfansoddeiriau, neu hyd yn oed ei leoliad mewn brawddeg. Mae gan rai kanji cyffredin ddeg neu ragor o ddarlleniadau gwahanol. Yn aml, gellir categoreiddio darlleniadau i ddau grŵp: yr on'yomi (darlleniad Sino-Japaneg) neu'r kun'yomi (darlleniad Japaneg).

Map o 2,230 kanji mwyaf cyffredin Japan. Trefnir y map ar sail trefn strôc y kanji
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato