Rhufeinio'r iaith Japaneg
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Rōmaji)
Rhufeinio'r iaith Japaneg yw'r broses o ddefnyddio'r wyddor Ladin i ysgrifennu yn yr iaith Japaneg. Gelwir y dull hwn o ysgrifennu yn rōmaji (Japaneg: ローマ字), sef "llythrennau Rhufeinig".
Caiff Japaneg ei ysgrifennu fel arfer trwy ddefnyddio arwyddluniau Tsieineeg a elwir yn kanji, ynghyd â sillwyddorau yr hiragana a'r katakana sydd yn unigryw i'r iaith. Caiff rōmaji felly ei ddefnyddio yn aml mewn cyd-testun lle mae angen cyfathrebu â darllenwyr nad sy'n medru'r Japaneg; er enghraifft mewn pasbort, ar arwyddion ffyrdd neu mewn geiriaduron ar gyfer dysgwyr.