Sgwrs:Kanji
Gwedd
Characters
[golygu cod]Newidiais 'nodau' i 'arwyddluniau'. Ychydig iawn sydd ar gael yn Gymraeg am ieithoedd a llenyddiaeth y Dwyrain Pell. Un o'r ychydig Gymry i feistroli'r Tsieinëeg a chyfieithu o'r iaith honno i'r Gymraeg oedd Cedric Maby ac 'arwyddlun(iau)' yw'r term ganddo am y "characters" Tsieinëeg yn ei gyfrolau Y Cocatŵ Coch (blodeugerdd o gerddi Tsieinëeg) a Dail Melyn o Tseina. Yma ac acw dwi wedi cywiro 'cymeriadau...' a 'llythrennau...' hefyd. Dwi'n meddwl fod awdurdod Cedric Maby yn ddigon i gyfiawnhau hynny, ond os ydy rhywun yn gwybod am derm amgen o ffynhonnell academaidd byddai'n ddiddorol cael gwybod. Diolch. Anatiomaros 20:14, 20 Awst 2010 (UTC)