Ci
Ci | |
---|---|
Ci Defaid Cymreig | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Canidae |
Genws: | Canis |
Rhywogaeth: | C. lupus |
Isrywogaeth: | C. l. familiaris |
Enw trienwol | |
Canis lupus familiaris (Linnaeus, 1758) |
Fel arfer mae'r term ci yn cyfeirio at y 'ci dof', sef y Canis lupus familiaris (neu "Canis familiaris") sy'n isrywogaeth dof o'r blaidd a ddifodwyd bellach, ac a fu unwaith yn byw rhywle yn Ewrasia tua 40,000 o flynyddoedd yn ôl.[1][2] Drwy fridio dethol y ci gwyllt dros filoedd o flynyddoedd cyrhaeddwyd ei ffurf amrywiol, presennol; bridiwyd ef am wahanol resymau gan gynnwys ei synhwyrau (arogli, gweld a chlywed) ei gyflymder, ei liw a'i siâp. Amcangyfrifir fod tua 400 miliwn o gŵn yn y byd. Yr enw torfol ydy 'haid o gŵn'.
Mae'r ci wedi datblygu'n gannoedd o fridiau gwahanol o ran maint, siâp a lliw, a cheir sawl brid a ystyrir yn Gymreig gan gynnwys y corgi, y ci defaid Cymreig, y ci hela Cymreig, y daeargi Cymreig, y daeargi Sealyham a'r Sbaengi hela Cymreig. Cyfeirir yn aml at gŵn mewn hen lawysgrifau Cymraeg ac yn y Cyfreithiau Cymreig a chofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn Llyfr Du Caerfyrddin yn y 13g: Rhydderch Hael a'i gŵn cyfrwys.[3] ac yn Llyvyr Agkyr Llanddewivrevi (1346) rhoddir y cyngor: Na roddwch chwi y bara bendigedig i'r cŵn.[4] Mae'r term 'ci' yn cwmpasu'r ffurf gwyllt a'r ffurf anwes a chaiff hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio anifeiliaid gwyllt o isrywogaethau tebyg. Fe'i defnyddir yn ffigyrol hefyd am arwr ac ymladdwr: 'aergi' neu 'gatgi', ond yn y Beibl fe'i defnyddir am beth ffiaidd neu ddirmygus e.e. oherwydd i'r Iddew, creadur ysglyfaethus ac aflan oedd ci ac fe'i ceir ar lafar am buteiniwr ac mewn geiriau fel bolgi, cachgi, celwyddgi, chwiwgi, ieithgi ayb. Ar lafar gwlad, defnyddir y gair "ci" am y gwryw a "gast" am y fenyw.[5]
Y ci yw'r anifail hynaf i gael ei ddofi gan ddyn ac mae wedi treulio dros 33,000 o flynyddoedd yn ei gwmni,[6] mae ymddygiad ci a dyn, felly wedi addasu a chlosio'n fwy nag unrhyw anifail arall, oddigerth, efallai, i'r gath e.e. mae wedi addasu i fwyta bwyd llawn starts yn ogystal â chig - sy'n ei wneud yn unigryw ymhlith disgynyddion y blaidd cigysol.[7]
Bridiwyd y ci yn gyntaf, mae'n debyg, i chwarae rôl o fewn yr helfa - i arogli'r ysglyfaeth, i glustfeinio am sŵn dieithr, i warchod praidd neu deulu, nes y daeth yn gwmni i'r person, y bugail, y milwr. Defnyddiwyd ef hefyd i dynnu car llusg yn y gorffennol ac yn yr oes fodern i arogli cyffuriau mewn maes awyr, mewn sioeau cŵn, ymrysonau cŵn defaid, neu i dywys person dall. Oherwydd hyn, ceir disgrifiadau teg ohono mewn sawl iaith. Yn Saesneg fe'i gelwir yn 'gyfaill gorau dyn'. Mewn rhannau eraill o'r byd, fel Tsieina a Fietnam, megir y ci am ei gig.[8][9]
Ar ôl cwymp Rhufain, roedd goroesiad pobl yn aml yn dod yn bwisicach na magu a hyfforddi cŵn. yn ystod y cyfnod hwn, daeth chwedlau o ddrygoini yn gŵn wedi'u gadel yn teithio mewn cnudoedd yn aml yn crwydro strydoedd a phentrefwyr ofnus.
Mae gan gŵn dri amrant. Mae'r trydydd caead a elwir yn bilen nictitating neu "haw" yn cadw'r llygad wedi'i iro a'i ddiogleu.
Y ci oedd y rhywogaeth gyntaf i gael ei dofi, gan helwyr-gasglwyr dros 15,000 o flynyddoedd yn ôl, cyn datblygiad amaethyddiaeth.[10]
Cymru
[golygu | golygu cod]Cŵn Cymreig
[golygu | golygu cod]Ymhlith y prif fridiau Cymreig y mae:
Termau am ast yn cwna
[golygu | golygu cod]Ceir amrywiaeth o dermau i ddisgrifio gast sy'n ysu i genhedlu, ond ddim cymaint ac a geir wrth ddisgrifio buwch neu geffyl. Fel gyda'r ddau anifail arall, mae afon Dyfi'n ffin eitha pendant rhwng y gwahanol dermau; dywedir fod gast yn 'cwna' i'r gogledd o'r ddyfi. Yn rhyfeddol, dyma hefyd a ddywedir yn ne Brycheiniog, ym Morgannwg ac yng Ngwent hefyd.
Yn yr hen Sir Fflint a dwyrain Maldwyn dywedir fod gast 'yn hel cŵn'. Yng nghanol Maldwyn ceir ynys sy'n dra gwahanol ei thafodiaith (eto, fel gyda'u hymadroddion am gaseg 'yn wyned' a'u buwch 'eisiau tarw'), dywedir fod yr ast 'yn cyneica' neu 'yn gynhaig'. Fel yn y Saesneg, mae geist Ceredigion a Chaerfyrddin 'yn boeth' a geist Penfro a chymoedd y Gwendraeth 'yn dwym'.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Merch a'i chi yng Nglyn Ceiriog oddeutu 1885
-
Ci (W Evans)
-
Ci
Rhai bridiau
[golygu | golygu cod]- Sbaengi Adara Seisnig - (Cocker Spaniel)
- Corgi
- Landseer
- Newfoundland
- Daeargi Jack Russell
- Ci Sant Bernard
- Ci Bocser
Tacsonomeg
[golygu | golygu cod]Yn 1758, cyhoeddodd y botanegydd a'r swolegydd o Sweden Carl Linnaeus yn ei Systema Naturae, enweb binomaidd rhywogaethau amrywiol. Canis yw'r gair Lladin sy'n golygu "ci,"[11] ac o dan y genws hwn, rhestrodd y ci domestig, y blaidd llwyd, a'r jacal aur. Dosbarthodd y ci domestig fel Canis familiaris ac, ar y dudalen nesaf, dosbarthodd y blaidd llwyd fel Canis lupus. Roedd Linnaeus yn ystyried bod y ci'n rhywogaeth ar wahân i'r blaidd oherwydd ei gynffon ar i fyny (cauda recurvata), nad yw i'w chael mewn unrhyw genws arall.
Ym 1999, dangosodd astudiaeth o DNA mitocondriaidd (mtDNA) y gallai’r ci domestig fod wedi tarddu o’r blaidd llwyd, o bosib o'r dingo a chwn o Gini Newydd a ddatblygodd tua'r un adeg pan oedd cymunedau dynol yn fwy ynysig oddi wrth ei gilydd. Yn y trydydd rhifyn o Rhywogaethau Mamaliaid y Byd a gyhoeddwyd yn 2005, rhestrodd y mamalegydd W. Christopher Wozencraft ei isrywogaeth gwyllt o dan y blaidd Canis lupus a chynigiodd ddau isrywogaeth ychwanegol, a ffurfiodd y clade ci domestig: familiaris, fel y'i enwyd gan Linneaus yn 1758 a, dingo a enwyd gan Meyer yn 1793. Roedd Wozencraft yn cynnwys hallstromi (y ci-canu Gini Newydd) fel enw arall ar y dingo. Cyfeiriodd Wozencraft at astudiaeth mtDNA fel un o'r canllawiau a oedd yn llywio'i benderfyniad. Mae mamalolegwyr wedi nodi cynnwys familiaris a dingo gyda'i gilydd o dan y cytras "ci domestig" gyda rhai yn ei anghtuno.
In 2019, a workshop hosted by the IUCN/Species Survival Commission's Canid Specialist Group considered the dingo and the New Guinea singing dog to be feral Canis familiaris and therefore did not assess them for the IUCN Red List of Threatened Species.
Esblygiad
[golygu | golygu cod]Digwyddodd y difodiant Cretasaidd-Paleogene 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl gan ddod â diwedd ar y deinosoriaid ac ymddangosiad y cigyddion cyntaf.[12] Rhoddir yr enw carniforan ar aelod o urdd yr Ysglyfaethwr (Carnivora). Mae gan gigysyddion drefniant cyffredin o ddannedd o'r enw carnassaliaid, lle mae'r cilddannedd isaf cyntaf a'r cilddannedd uchaf olaf yn meddu ar goronau enamel tebyg i lafn sy'n gweithredu'n debyg i lafnau siswrn i dorri cig. Mae'r trefniant deintyddol hwn wedi'i addasu dros y 60 miliwn o flynyddoedd diwethaf ar gyfer dietau sy'n cynnwys cig, ar gyfer malu llystyfiant, neu eu colli'n llwyr, fel mewn morloi a walrws. Heddiw, nid yw pob carniforan yn gigysydd, ee yr Aardwolf sy'n bwyta pryfed.[12]
Cychwynnodd cyndeidiau cigysol y caniformau tebyg i gi a'r feliformau tebyg i gath eu llwybrau esblygiadol ar wahân ychydig ar ôl diwedd oes y deinosoriaid. Ymddangosodd aelodau cyntaf y teulu cŵn Canidae 40 miliwn o flynyddoedd yn ôl,[12] a dim ond ei is-deulu y Caninae sydd wedi goroesi heddiw. O fewn y Caninae, ymddangosodd aelodau cyntaf y genws Canis chwe miliwn o flynyddoedd yn ôl:[12] bleiddiaid, coyotes, a jacaliaid aur.
Dofi
[golygu | golygu cod]Darganfuwyd yr olion cynharaf o gi dof yn Bonn-Oberkassel, yr Almaen. Mae tystiolaeth gyd-destunol, isotopig, genetig a morffolegol yn dangos nad blaidd lleol oedd y ci hwn. Cafodd y ci ei ddyddio i 14,223 o flynyddoedd yn ôl (neu CP) a daethpwyd o hyd iddo wedi’i gladdu gyda dyn a dynes, y tri wedi cael eu chwistrellu â phowdr hematit coch a’u claddu o dan flociau basalt mawr, trwchus, tebyg i gromlech. Roedd y ci wedi marw o ddistemper cwn . Disgrifiwyd gweddillion cynharach sy'n dyddio'n ôl i 30,000 o flynyddoedd yn ôl fel cŵn Paleolithig ond erys eu statws fel cŵn neu fleiddiaid yn destun dadl oherwydd bod amrywiaeth morffolegol sylweddol yn bodoli ymhlith bleiddiaid yn ystod y Pleistosen Diweddar.
Bridiau
[golygu | golygu cod]Cŵn yw'r mamaliaid mwyaf amrywiol ar y ddaear gyda thua 450 o fridiau cŵn a gydnabyddir yn fyd-eang. Yn oes Fictoria, datblygodd detholiad dynol (nid Detholiad naturiol) yn fridiau o wahanol gŵn modern, a arweiniodd at ystod eang o ffenoteipiau. Deilliodd y mwyafrif o fridiau yn y 200 mlynedd diwethaf, ac ers hynny mae cŵn wedi mynd trwy newid ffenoteipaidd cyflym oherwydd detholiad artiffisial a gynlluniwyd ac a weithredwyd gan bobl.
Mae maint y benglog, y corff, yr aelodau, y gynffon, math o ffwr a lliw yn amrywio'n sylweddol rhwng bridiau, gyda chŵn yn arddangos mwy o amrywiaeth ffenoteipaidd nag a geir o fewn gweddill urdd y cigysyddion. Mae eu hymddygiad yn cynnwys gwarchod, bugeilio, hela, adalw, a chanfod arogl ac mae eu personoliaeth yn cynnwys ymddygiad gor-gymdeithasu, beiddgarwch, ac ymddygiad ymosodol, sy'n dangos amrywiaeth fawr mewn swyddogaeth ac ymddygiad. O ganlyniad, heddiw cŵn yw'r rhywogaeth mwyaf niferus o holl gigysyddion, ac maent wedi'u gwasgaru ledled y byd.
Bioleg
[golygu | golygu cod]Anatomeg
[golygu | golygu cod]sgerbwd
[golygu | golygu cod]Mae gan bob ci iach, waeth beth fo'i faint a'i fath, strwythur ysgerbydol union yr un fath ac eithrio nifer yr esgyrn yn y gynffon, er bod amrywiad ysgerbydol sylweddol rhwng cŵn o wahanol fathau.[13][14] Addaswyd sgerbwd ci ar gyfer rhedeg; mae gan y fertebra ar y gwddf a'r cefn estyniadau pwerus i gyhyrau cefn gysylltu â nhw, mae'r asennau hir yn darparu digon o le i'r galon a'r ysgyfaint, ac nid yw'r ysgwyddau'n gysylltiedig â'r sgerbwd gan ganiatáu hyblygrwydd mawr.[13] [14]
O ganlyniad i fridio detholus mae sgerbwd y ci wedi gwella'n fawr o ran maint ar gyfer mathau mwy fel gafaelgiwn (mastiffs) a mathau llai fel daeargwn; ceir rhai mathau lle mae coesau byr yn fanteisiol megis dachshunds a chorgwn.[14] Yn naturiol, mae gan y rhan fwyaf o gwn 26 fertebra yn eu cynffonau, ond mae gan rai â chynffonau byr naturiol cyn lleied â thri.[13]
Mae gan benglog y ci hefyd gydrannau sy'n gyffredin rhwng y bridiau, ond ceir gwahaniaeth sylweddol o ran siâp penglog rhwng y gwahanol fathau.[14][15] Y tri siâp penglog sylfaenol yw'r math dolichocephalic hirgul a welir mewn milgwn, y math mesocephalic neu mesaticephalic canolradd, a'r math brachycephalic byr iawn ac eang a ddangosir gan benglogau gafaelgwn.[14][15]
Synhwyrau
[golygu | golygu cod]Mae synhwyrau ci yn cynnwys gweld, clywed, arogli, blasu, cyffwrdd, a sensitifrwydd i faes magnetig y Ddaear. Yn ôl un astudiaeth, gall gŵn weld maes magnetig y Ddaear.[16]
Côt
[golygu | golygu cod]Mae cotiau cŵn domestig o ddau fath: mae'r got "dwbl" i'w cael gan gŵn (yn ogystal â bleiddiaid) sy'n tarddu o hinsoddau oerach, sy'n cynnwys blew amddiffynnol bras a blew meddal "sengl," y cot uchaf yn unig. Mae'n bosibl y bydd gan fridiau streipen "blaze," neu "seren" o ffwr gwyn o bryd i'w gilydd ar eu brest neu oddi tanynt.[13] Gall britho cynamserol ddigwydd mewn cŵn mor gynnar â blwydd oed; mae hyn yn gysylltiedig ag ofn.[17]
Cynffon
[golygu | golygu cod]Mae yna lawer o wahanol siapiau ar gyfer cynffonnau cwn: syth, syth i fyny, crymanu, cyrliog, neu fel sgriw. Un o brif swyddogaethau cynffon ci yw cyfathrebu ei gyflwr emosiynol, a all fod yn hanfodol wrth gyd-dynnu ag eraill. Yn draddodiadol, ee mewn rhai cŵn hela, mae'r gynffon yn cael ei thocio i osgoi anafiadau.
Iechyd
[golygu | golygu cod]Mae rhai bridiau o gwn yn dueddol o ddioddef anhwylderau genetig penodol megis dysplasia'r penelin a'r glun, dallineb, byddardod, crebachiadau pwlmonaidd, taflod hollt, a'r patela'n dadleol. Dau gyflwr meddygol difrifol sy'n effeithio'n sylweddol ar gŵn yw pyometra, sy'n effeithio ar y fenyw o bob brîd ac oedran, a thro'n y stumog (GDV), sy'n effeithio ar fridiau mwy. Mae'r ddau o'r rhain yn gyflyrau acíwt a gallant ladd yn gyflym. Mae cŵn hefyd yn agored i barasitiaid fel chwain, trogod, gwiddon, llyngyr bach, llyngyr rhuban, llyngyr main, a llyngyr y galon, sef rhywogaeth llyngyr sy'n byw yng nghalonnau cŵn.
Mae nifer o fwydydd dynol a bwyd na ellir ei dreulio yn wenwynig i gŵn, gan gynnwys siocled, winwns a garlleg,grawnwin a chwraints (resins), a chnau macadamia.[18] Gall y nicotin mewn tybaco hefyd fod yn beryglus i gŵn. Gall arwyddion llyncu gynnwys chwydu helaeth (ee, o fwyta bonion sigâr) neu ddolur rhydd. Rhai symptomau eraill yw poen yn yr abdomen, colli cydsymudiad, a chwymp.[19]
Mae cŵn hefyd yn agored i rai gyflyrau iechyd sy'n taro pobl, gan gynnwys clefyd y siwgwr, y ddannodd a’r galon, epilepsi, canser, y thyroid a gwynegon.
Rhychwant oes
[golygu | golygu cod]Mae hyd oes cŵn yn amrywio’n fawr ymhlith bridiau, ond i’r rhan fwyaf, mae’r oedran lle mae hanner y cŵn mewn poblogaeth wedi marw a hanner yn dal yn fyw (sef yr hirhoedledd canolrif) yn amrywio o 10 i 13 mlynedd.[20][21] Mae hirhoedledd canolrif cŵn brid cymysg, o'i gymryd fel cyfartaledd o bob maint, flwyddyn neu fwy yn hwy na chŵn pur eu brîd ar gyfartaledd.[20][21][22] Ar gyfer cŵn yng ngwledydd Prydain, canfuwyd bod cydberthynas negyddol rhwng pwysau corff cynyddol a hirhoedledd (hy, y trymach yw'r ci, y byrraf yw ei oes), ac mae cŵn brid cymysg yn byw ar gyfartaledd 1.2 mlynedd yn hirach na chŵn brîd pur.
Atgynhyrchu
[golygu | golygu cod]Mae cŵn domestig yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol pan maen nhw tua chwe mis i flwyddyn oed, ar gyfer gwrywod a benywod, er y gall hyn gael ei ohirio am ddwy flwydd mewn rhai bridiau mawr, pan fydd geist (cŵn benyw) yn cael eu cylch estrous cyntaf ac yn cychwyn cwna (gw. y map). Byddant yn profi cylchoedd estrous dilynol bob chwe mis, pan fydd y corff yn paratoi ar gyfer beichiogrwydd. Ar anterth y cylchred, bydd benywod yn mynd yn estrous, a byddant yn feddyliol ac yn gorfforol yn barod i atgenhedlu. Oherwydd bod yr ofwm yn goroesi ac yn gallu cael ei ffrwythloni am wythnos ar ôl ofyliad, gall mwy nag un gi gwryw fod wedi ffrwythloni cŵn bach gwahanol yn yr un torllwyth.[23]
Mae ffrwythloniad fel arfer yn digwydd dau i bum diwrnod ar ôl ofyliad; 14-16 diwrnod ar ôl ofylu, mae'r embryo yn glynu wrth y groth ac ar ôl saith i wyth diwrnod arall, mae curiad y galon i'w glywed.[24][25]
Mae cŵn yn cario eu torllwythi am tua 58 i 68 diwrnod ar ôl ffrwythloni,[23] [26] gyda chyfartaledd o 63 diwrnod (deufis), er y gall hyd y beichiogrwydd amrywio. Ar gyfartaledd mae tua chwe chi bach ym mhob torllwyth.[27]
Ymddygiad
[golygu | golygu cod]Fel y rhywogaeth dof hynaf, mae sut mae cŵn yn ymddwyn, wedi cael eu llunio gan filoedd o flynyddoedd o gysylltiad agos â phobol. Oherwydd yr esblygiad corfforol a chymdeithasol hwn, mae cŵn yn gallu deall a chyfathrebu â bodau dynol yn fwy nag unrhyw rywogaeth arall ar wyneb y Ddaear. Canfu gwyddonwyr ymddygiadol set syfrdanol o alluoedd cymdeithasol-wybyddol mewn cŵn domestig. Nid yw'r galluoedd hyn i'w canfod hyd yn oed yn yr epaod mawr.
Yn wahanol i rywogaethau domestig eraill a ddewiswyd ar gyfer nodweddion fel cynhyrchu llaeth, cig ayb, dewiswyd cŵn ar gyfer eu bridio yn ôl eu hymddygiad.[28][29] Yn 2016, canfu astudiaeth mai dim ond 11 o enynnau sefydlog sy'n gwahaniaethu'r blaidd o'r ci. Nid oedd yr amrywiadau genynnau hyn yn debygol o fod o ganlyniad i esblygiad naturiol ac maent yn dynodi dethol ar ar sail morffoleg ac ymddygiad yn y broses o ddofi cŵn. Dangoswyd bod y genynnau hyn yn effeithio ar y llwybr synthesis catecholamine, gyda'r mwyafrif o'r genynnau'n effeithio ar yr ymateb ymladd-neu-hedfan[29][30] a phrosesu emosiynol.[29] Yn gyffredinol, mae cŵn yn dangos llai o ofn ac ymddygiad ymosodol o'i gymharu â bleiddiaid.[29][31] Mae rhai o'r genynnau hyn wedi'u cysylltu ag ymddygiad ymosodol mewn rhai bridiau cŵn, sy'n dangos eu pwysigrwydd yn y dofiad cychwynnol ac yn ddiweddarach wrth ffurfio bridiau.[29] Gall nodweddion cymdeithasgarwch uchel a diffyg ofn mewn cŵn gynnwys addasiadau genetig sy'n gysylltiedig â syndrom Williams-Beuren mewn bodau dynol, sy'n achosi gor-gymdeithasoli ar draul y gallu i ddatrys problemau.[32]
Deallusrwydd
[golygu | golygu cod]Deallusrwydd ci yw gallu'r ci i ganfod gwybodaeth a'i chadw yn y cof er mwyn datrys problemau yn y dyfodol. Mae'r astudiaethau o ddau gi yn awgrymu y gall cŵn ddysgu trwy ddod i gasgliad a bod ganddynt sgiliau cofio uchel. Dangosodd astudiaeth gyda Rico, Collie Border, ei fod yn gwybod labeli (neu 'enwau') dros 200 o wahanol eitemau. Casglodd enwau pethau newydd trwy ddysgu eithrio ac adalw'r eitemau newydd hynny'n gywir yn syth a phedair wythnos ar ôl y datguddiad cychwynnol. Roedd astudiaeth o Border Collie arall, "Chaser," yn dogfennu ei alluoedd dysgu a chofio. Roedd wedi dysgu'r enwau a gallai gysylltu â gorchymyn llafar dros 1,000 o eiriau.[33] Gall cŵn ddarllen ac ymateb yn briodol i iaith y corff dynol megis ystumio a phwyntio a gorchmynion llais dynol.
Canfu un astudiaeth o alluoedd gwybyddol cŵn nad yw galluoedd cŵn yn fwy eithriadol na galluoedd anifeiliaid eraill, megis ceffylau, y tsimpansî, neu gathod. Daeth astudiaeth gyfyngedig o 18 o gŵn cartref i'r canlyniad nad oedd ganddynt gof gofodol (spatial memory), a'u bod yn canolbwyntio mwy ar "beth i'w wneud nesaf" yn y dasg yn hytrach na "lle".
Dangosodd astudiaeth arbrofol dystiolaeth gymhellol y gall dingos gwyllt Awstralia berfformio'n well na chŵn domestig o ran datrys problemau anghymdeithasol, gan ddangos y gall cŵn domestig fod wedi colli llawer o'u galluoedd datrys problemau cynhenid, gwreiddiol ar ôl iddynt gael eu dofi.[34][35][36]
Cyfathrebu
[golygu | golygu cod]Cyfathrebu yw sut y mae cŵn yn cyfleu gwybodaeth i gŵn eraill, yn deall negeseuon gan bobl ac yn cyfieithu'r wybodaeth y mae cŵn yn ei throsglwyddo.[37] Mae ymddygiadau cyfathrebu cŵn yn cynnwys y llygaid yn syllu, mynegiant yr wyneb, lleisio, ystum y corff (gan gynnwys symudiadau'r corff a'r aelodau), a chyfathrebu syfrdanol (aroglau, fferomonau, a blas). Mae bodau dynol yn cyfathrebu â chŵn trwy'r llais (gweiddi!), arwyddion breichiau a llaw, ac ystum y corff.
Ecoleg
[golygu | golygu cod]Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Mae'n debyg mai'r ci yw'r cigysydd mwyaf niferus sy'n byw yn yr amgylchedd dynol.[38][39] Yn 2013, amcangyfrifwyd bod y boblogaeth cŵn byd-eang rhwng 700 miliwn[40] a 987 miliwn.[41] Mae tua 20% o gŵn yn byw fel anifeiliaid anwes mewn gwledydd datblygedig. Yn y byd sy'n datblygu, mae cŵn yn fwy gwyllt neu dan berchnogaeth y gymuned fel arfer, gyda chŵn anwes yn anghyffredin. Mae’r rhan fwyaf o’r cŵn hyn yn byw eu bywydau fel sborionwyr (scavengers) ac nid ydynt erioed heb fod yn eiddo i fodau dynol, ac mae un astudiaeth yn dangos mai eu hymateb mwyaf cyffredin pan fydd dieithriaid yn dod atynt yw rhedeg i ffwrdd (52%) neu ymateb yn ymosodol (11%).[42] Ychydig a wyddys am y cŵn hyn, na'r cŵn mewn gwledydd datblygedig sy'n hollol wyllt, yn crwydro, neu sydd mewn llochesi oherwydd bod mwyafrif helaeth yr ymchwil modern ar wybyddiaeth cŵn wedi canolbwyntio ar gŵn anwes sy'n byw mewn cartrefi dynol.[43]
Deiet
[golygu | golygu cod]Disgrifiwyd cŵn fel hollysyddion.[23][44][45] O'i gymharu â bleiddiaid, mae gan gŵn o gymdeithasau amaethyddol gopïau ychwanegol o amylas a genynnau eraill sy'n ymwneud â threulio starts sy'n cyfrannu at allu cynyddol i ffynnu ar ddeiet llawn starts.[7] Fel pobol, mae rhai bridiau cŵn yn cynhyrchu amylas yn eu poer ac yn cael eu dosbarthu fel rhai â diet â starts uchel.[46] Fodd bynnag, yn debycach i gathod ac yn llai tebyg i hollysyddion eraill, dim ond gyda thawrin y gall cŵn gynhyrchu asid bustl ac ni allant gynhyrchu fitamin D, y maent yn ei gael o gnawd anifeiliaid. Hefyd, yn debycach i gathod, mae angen arginin ar gŵn i gynnal ei gydbwysedd nitrogen. Mae'r gofynion maethol hyn yn gosod cŵn hanner ffordd rhwng cigysyddion a hollysyddion.[47]
Gweithwyr
[golygu | golygu cod]Mae cŵn wedi byw a gweithio gyda phobl mewn llawer o rolau gwahanol. Yn ogystal â rôl cŵn fel anifeiliaid anwes, mae cŵn wedi’u bridio ar gyfer bugeilio da byw a defaid (ee cŵn defaid),[48][23] cŵn hela llwynogod ayb[49] a rheoli llygod mawr (ee daeargi).[23]
Ceir mathau eraill o gŵn gwaithgan gynnwys cŵn chwilio ac achub,[50] cŵn canfod (ee cyffuriau mewn meysydd awyr)[51] neu arfau cemegol [52] cŵn gwarchod; cŵn sy'n cynorthwyo pysgotwyr i ddefnyddio rhwydi; a chŵn, fel yr hysgi, sy'n tynnu troliau, cerbydau ysgafn ayb.[23] Ym 1957, y ci Laika oedd yr anifail cyntaf i gael ei lansio i gylchdroi o gwmpas y Ddaear, a hynny ar Sputnik 2 y Sofietiaid; bu farw yn ystod yr hedfaniad.[53][54]
Ymhlith y mathau eraill o gŵn gwaith, mae cŵn tywys, cŵn cynhorthwyo gyda symudedd a chŵn y gwasanaeth seiciatrig, sy'n cynorthwyo unigolion ag anableddau.[55][56] Dangoswyd bod rhai cŵn sy'n eiddo i bobl ag epilepsi yn rhybuddio eu triniwr pan fydd y triniwr yn dangos arwyddion o drawiad funudau cyn iddo ddigwydd, gan ganiatáu i'r person geisio diogelwch, meddyginiaeth neu ofal meddygol. [57]
Cig ci
[golygu | golygu cod]Bwyteir cig ci mewn rhai gwledydd yn Nwyrain Asia, gan gynnwys Corea,[58] Tsieina,[8] Fietnam[9] a'r Pilipinas,[59] ers canrifoedd.[60] Yn seiliedig ar ddata cyfyngedig, amcangyfrifir bod 13-16 miliwn o gŵn yn cael eu lladd a'u bwyta yn Asia bob blwyddyn.[61] Yn Tsieina, ceir llawer o ddadlau ers blynyddoedd am wahardd bwyta cig cŵn.[62]
Caiff cig ci hefyd ei fwyta mewn rhai rhannau o'r Swistir.[63] Roedd diwylliannau eraill, megis Polynesia a Mecsico cyn ymosodiad Sbaen, hefyd yn caniatau bwyta cig ci. Credir hefyd bod braster cŵn yn fuddiol i'r ysgyfaint mewn rhai rhannau o Wlad Pwyl[64][65] a Chanolbarth Asia.[66][67] Mae cefnogwyr bwyta cig ci wedi dadlau mai rhagrith Gorllewinol yw gwahaniaethu rhwng bwta oen bach a chŵn ac nad oes gwahaniaeth mewn bwyta cig anifeiliaid gwahanol. [68][69][70]
Yn Korea, mae'r brîd cŵn sylfaenol a gaiff ei fagu ar gyfer cig, y Nureongi, yn wahanol i'r bridiau hynny a gaiff ei fagu ar gyfer anifeiliaid anwes.[71]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Coppinger, Raymond; Schneider, Richard (1995). "Evolution of working dogs". In Serpell, James (gol.). The domestic dog: its evolution, behaviour, and interactions with people. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-42537-7.
- HarperCollins (2021). "Collins Dictionary". HarperCollins Publishers L.L.C.
- Cunliffe, Juliette (2004). The encyclopedia of dog breeds. Bath: Paragon Books. ISBN 978-0-7525-8018-0.
- Fogle, Bruce (2009). The encyclopedia of the dog. New York: DK Publishing. ISBN 978-0-7566-6004-8.
- Jones, Arthur F.; Hamilton, Ferelith (1971). The world encyclopedia of dogs. New York: Galahad Books. ISBN 978-0-88365-302-9.
- Miklósi, Adám (2007). Dog Behaviour, Evolution, and Cognition. Oxford University Press. doi:10.1093/acprof:oso/9780199295852.001.0001. ISBN 978-0-19-929585-2.
- Wang, Xiaoming; Tedford, Richard H. (2008). Dogs: Their Fossil Relatives and Evolutionary History. Columbia University Press, New York. tt. 1–232. ISBN 978-0-231-13529-0. OCLC 502410693.
- Smith, Bradley, gol. (2015). The Dingo Debate: Origins, Behaviour and Conservation. CSIRO Publishing, Melbourne, Australia. ISBN 978-1-4863-0030-3.
- Boitani, Luigi; Mech, L. David (2003). Wolves: Behavior, Ecology, and Conservation. Chicago: University of Chicago Press. t. 482. ISBN 978-0-226-51696-7. OCLC 904338888.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Llyfryddiaeth y Llyfrgell Treftadaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Canis lupus familiaris
- Fédération Cynologique Internationale (FCI) – Sefydliad Cŵn y Byd
- Cŵn yn yr Hen Fyd, erthygl ar hanes cŵn
- Gweld y genom ci Archifwyd 2013-12-13 yn y Peiriant Wayback Archived ar Ensembl
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ci defaid Cymreig
- Ci blaidd: alsatian
- Ci hela Cymreig
- Daeargi Cymreig
- Daeargi Sealyham
- Sbaengi hela Cymreig
- Rhestr cŵn enwog
- Ymryson cŵn defaid
- Cŵn Annwn
- Categori:Bridiau o gŵn
Arall
[golygu | golygu cod]- Ci adar: gun-dog
- Ci aden: setter
- Ci hir: hen enw ar y milgi
- Ci llathaid: hen ar y corgi neu'r dachshund (De Cymru)
- Ci arffed neu gi rhech (Ar lafar yn y Gogledd): lap-dog
- Ci codi: ci a ddefnyddir i godi ysglyfaeth
- Ci coed: ci gwyllt
- Ci ysgyfarnog: harrier (ers 1774)
- Ci cwrso: ci i ddidoli defaid a gwartheg
- Ci setio: setter
- Ci tom: ci yn y cartref (ers 1547)
- Ci Bach: Canis Minor (astronomeg)
- Ci Mawr Canis Major
- Cŵn bendith y mamau neu gŵn wybr: cŵn y Tylwyth Teg (a oedd yn rhagflaenu cynhebryngau)
- Ci bêr: turnspit
- Ci bugail: ci defaid
- Ci cadno: fox-hound -ar lafar yn y Ne Cymru
- Y ci coch: rhan o'r enfys
- Ci drycin: weather-dog
- Ci Ebrill: y gylfinir
- Pysgodyn ci glas: dogfish
- Ci môr: dogfish (ers 1688)
- Ci llidiart: colfach gat neu lidiart (ardal Penllyn)
Dywediadau
[golygu | golygu cod]- Cyn codi cŵn Caer - yn gynnar yn y bore
- Byw fel cŵn a moch (ci a hwch):
- Clefyd yr hen gi - clefyd Gwenerol (Ar lafar yng ngorllewin Morgannwg)
- Mynd i’r cŵn: pethau wedi mynd yn fler (to go to the dogs) Hefyd: Mynd rhwng y cŵn a’r brain (moch)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Wayne, Robert K. (1993). "Molecular evolution of the dog family". Trends in Genetics 9 (6): 218–224. doi:10.1016/0168-9525(93)90122-X. ISSN 0168-9525. PMID 8337763. https://archive.org/details/sim_trends-in-genetics_1993-06_9_6/page/218.
- ↑ Skoglund, P.; Ersmark, E.; Palkopoulou, E.; Dalén, L. (2015). "Ancient Wolf Genome Reveals an Early Divergence of Domestic Dog Ancestors and Admixture into High-Latitude Breeds". Current Biology. doi:10.1016/j.cub.2015.04.019.
- ↑ Y cofnod gwreiddiol yn Llyfr Du Caerfyrddin (C 5716) yw: Rac dyuod. Riderch hael. ae cvn kyfruys,
- ↑ ci. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2021.
- ↑ "Dog". Dictionary.com.
- ↑ "DNA Dates Dog Domestication Back 33,000 Years". Discovery.com. Rhagfyr 2015.[dolen farw]
- ↑ 7.0 7.1 Axelsson, E.; Ratnakumar, A.; Arendt, M. L.; Maqbool, K.; Webster, M. T.; Perloski, M.; Liberg, O.; Arnemo, J. M. et al. (2013). "The genomic signature of dog domestication reveals adaptation to a starch-rich diet". Nature 495 (7441): 360–364. Bibcode 2013Natur.495..360A. doi:10.1038/nature11837. PMID 23354050.
- ↑ 8.0 8.1 Wingfield-Hayes, Rupert (29 Mehefin 2002). "China's taste for the exotic". BBC News.
- ↑ 9.0 9.1 "Vietnam's dog meat tradition". BBC News. 31 Rhagfyr 2001.
- ↑ Wang & Tedford 2008, t. 1.
- ↑ Wang & Tedford 2008, t. 58.
- ↑ 12.0 12.1 12.2 12.3 Wang & Tedford 2008.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 13.3 Cunliffe (2004).
- ↑ 14.0 14.1 14.2 14.3 14.4 Fogle (2009).
- ↑ 15.0 15.1 Jones & Hamilton (1971).
- ↑ Nießner, Christine; Denzau, Susanne; Malkemper, Erich Pascal; Gross, Julia Christina; Burda, Hynek; Winklhofer, Michael; Peichl, Leo (2016). "Cryptochrome 1 in Retinal Cone Photoreceptors Suggests a Novel Functional Role in Mammals". Scientific Reports 6: 21848. Bibcode 2016NatSR...621848N. doi:10.1038/srep21848. PMC 4761878. PMID 26898837. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4761878.
- ↑ King, Camille; Smith, Thomas J.; Grandin, Temple; Borchelt, Peter (2016). "Anxiety and impulsivity: Factors associated with premature graying in young dogs". Applied Animal Behaviour Science 185: 78–85. doi:10.1016/j.applanim.2016.09.013.
- ↑ Murphy, L.A.; Coleman, A.E. (2012). "Xylitol Toxicosis in Dogs". Veterinary Clinics of North America: Small Animal Practice 42 (#2): 307–312. doi:10.1016/j.cvsm.2011.12.003. PMID 22381181.
- ↑ Fogle, Bruce (1974). Caring For Your Dog.
- ↑ 20.0 20.1 Proschowsky, H.F.; H. Rugbjerg; A.K. Ersbell (2003). "Mortality of purebred and mixed-breed dogs in Denmark". Preventive Veterinary Medicine 58 (#1–2): 63–74. doi:10.1016/S0167-5877(03)00010-2. PMID 12628771.
- ↑ 21.0 21.1 Michell AR (1999). "Longevity of British breeds of dog and its relationships with sex, size, cardiovascular variables and disease". The Veterinary Record 145 (#22): 625–629. doi:10.1136/vr.145.22.625. PMID 10619607.
- ↑ "Comparative longevity of pet dogs and humans: implications for gerontology research". The Journals of Gerontology. Series A, Biological Sciences and Medical Sciences 52 (#3): B171–178. 1997. doi:10.1093/gerona/52A.3.B171. PMID 9158552.
- ↑ 23.0 23.1 23.2 23.3 23.4 23.5 Dewey, T. and S. Bhagat. 2002.
- ↑ Concannon, P; Tsutsui, T; Shille, V (2001). "Embryo development, hormonal requirements and maternal responses during canine pregnancy". Journal of Reproduction and Fertility. Supplement 57: 169–179. PMID 11787146.
- ↑ "Dog Development – Embryology". Php.med.unsw.edu.au. 16 June 2013. Cyrchwyd 20 May 2021.
- ↑ "Gestation in dogs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 June 2013. Cyrchwyd 24 March 2013.
- ↑ "HSUS Pet Overpopulation Estimates". The Humane Society of the United States. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-25. Cyrchwyd 22 October 2008.
- ↑ Serpell J, Duffy D. Dog Breeds and Their Behavior.
- ↑ 29.0 29.1 29.2 29.3 29.4 Cagan, Alex; Blass, Torsten (2016). "Identification of genomic variants putatively targeted by selection during dog domestication". BMC Evolutionary Biology 16: 10. doi:10.1186/s12862-015-0579-7. PMC 4710014. PMID 26754411. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4710014.
- ↑ Almada RC, Coimbra NC.
- ↑ Coppinger R, Schneider R: Evolution of working dogs.
- ↑ Bridgett M. von Holdt; Emily Shuldiner; Ilana Janowitz Koch; Rebecca Y. Kartzinel; Andrew Hogan; Lauren Brubaker; Shelby Wanser; Daniel Stahler et al. (19 July 2017). "Structural variants in genes associated with human Williams-Beuren syndrome underlie stereotypical hypersociability in domestic dogs". Science Advances 3: e1700398. Bibcode 2017SciA....3E0398V. doi:10.1126/sciadv.1700398. PMC 5517105. PMID 28776031. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5517105.
- ↑ Pilley, John (2013). Chaser: Unlocking the genius of the dog who knows a thousand words. Houghton Mifflin Harcourt. ISBN 978-0-544-10257-6.
- ↑ Piotti, Patrizia; Kaminski, Juliane (2016-08-10). "Do Dogs Provide Information Helpfully?" (yn en). PLOS ONE 11 (#8): e0159797. Bibcode 2016PLoSO..1159797P. doi:10.1371/journal.pone.0159797. ISSN 1932-6203. PMC 4980001. PMID 27508932. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4980001.
- ↑ Smith, B.; Litchfield, C. (2010). "How well do dingoes (Canis dingo) perform on the detour task". Animal Behaviour 80: 155–162. doi:10.1016/j.anbehav.2010.04.017. https://www.semanticscholar.org/paper/96a2ef62289e405ef2fff7bc2610304548610a5d.
- ↑ Miklósi, A; Kubinyi, E; Topál, J; Gácsi, M; Virányi, Z; Csányi, V (Apr 2003). "A simple reason for a big difference: wolves do not look back at humans, but dogs do". Curr Biol 13 (#9): 763–766. doi:10.1016/S0960-9822(03)00263-X. PMID 12725735.
- ↑ Coren, Stanley How To Speak Dog: Mastering the Art of Dog-Human Communication, 2000 Simon & Schuster, New York.
- ↑ Young, Julie K.; Olson, Kirk A.; Reading, Richard P.; Amgalanbaatar, Sukh; Berger, Joel (1 February 2011). "Is Wildlife Going to the Dogs? Impacts of Feral and Free-roaming Dogs on Wildlife Populations" (yn en). BioScience 61 (#2): 125–132. doi:10.1525/bio.2011.61.2.7. ISSN 0006-3568. https://academic.oup.com/bioscience/article/61/2/125/242696.
- ↑ Daniels, Thomas; Bekoff, Marc (1989-11-27). "Population and Social Biology of Free-Ranging Dogs, Canis familiaris". Ecology Collection. https://www.wellbeingintlstudiesrepository.org/acwp_ehlm/18.
- ↑ Hughes, Joelene; MacDonald, David W. (2013). "A review of the interactions between free-roaming domestic dogs and wildlife". Biological Conservation 157: 341–351. doi:10.1016/j.biocon.2012.07.005.
- ↑ Gompper, Matthew E. (2013). "Ch.1-The dog–human–wildlife interface: assessing the scope of the problem". In Gompper, Matthew E (gol.). Free-Ranging Dogs and Wildlife Conservation. Oxford University Press. t. 25. ISBN 978-0-19-181018-3.
- ↑ Ortolani, A (2009). "Ethiopian village dogs: Behavioural responses to a stranger's approach". Applied Animal Behaviour Science 119 (#3–4): 210–218. doi:10.1016/j.applanim.2009.03.011.
- ↑ Udell, M.A.R.; Dorey, N.R.; Wynne, C.D.L. (2010). "What did domestication do to dogs? A new account of dogs' sensitivity to human actions". Biological Reviews 85 (#2): 327–345. doi:10.1111/j.1469-185X.2009.00104.x. PMID 19961472.
- ↑ S.G. Pierzynowski; R. Zabielski (1999). Biology of the pancreas in growing animals. 28 of Developments in animal and veterinary sciences. Elsevier Health Sciences. t. 417. ISBN 978-0-444-50217-9.[dolen farw]
- ↑ Smith, Cheryl S. (2008). "Chapter 6: Omnivores Together". Grab Life by the Leash: A Guide to Bringing Up and Bonding with Your Four-Legged Friend. John Wiley and Sons. t. 77. ISBN 978-0-470-17882-9.
- ↑ Pajic, Petar; Pavlidis, Pavlos; Dean, Kirsten; Neznanova, Lubov; Romano, Rose-Anne; Garneau, Danielle; Daugherity, Erin; Globig, Anja et al. (14 May 2019). "Independent amylase gene copy number bursts correlate with dietary preferences in mammals". eLife 8. doi:10.7554/eLife.44628. PMC 6516957. PMID 31084707. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6516957.
- ↑ Fascetti, Andrea J.; Delaney, Sean J., gol. (2012). "7". Applied Veterinary Clinical Nutrition (arg. 1st). Wiley-Blackwell. t. 76. ISBN 978-0-813-80657-0.
- ↑ Williams, Tully (2007). Working Sheep Dogs. Collingwood, Vic.: CSIRO Publishing. ISBN 978-0-643-09343-0.
- ↑ Serpell, James (1995). "Origins of the dog: domestication and early history". The Domestic Dog. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-41529-3.
- ↑ Vikki Fenton, The use of dogs in search, rescue and recovery, Journal of Wilderness Medicine Vol. 3, Issue 3, August 1992, pp. 292–300.
- ↑ John J. Ensminger, Police and Military Dogs: Criminal Detection, Forensic Evidence, and Judicial Admissibility (CRC Press, 2012).
- ↑ Philip Shernomay, Dogs Take Their Place in Arsenal Against Chemical Attack, New York Times (13 May 2003).
- ↑ Alex Wellerstein (3 November 2017). "Remembering Laika, Space Dog and Soviet Hero". New Yorker.
- ↑ Solovyov, Dmitry; Pearce, Tim (ed.) (11 April 2008). "Russia fetes dog Laika, first earthling in space". Reuters.CS1 maint: extra text: authors list (link)
- ↑ Audrestch, Hilary M.; Whelan, Chantelle T.; Grice, David; Asher, Lucy; England, Gary C.W.; Freeman, Sarah L. (2015). "Recognizing the value of assistance dogs in society". Disability and Health Journal 8 (#4): 469–474. doi:10.1016/j.dhjo.2015.07.001. PMID 26364936. http://eprints.nottingham.ac.uk/38879/1/Assistance%20Dogs%20Paper%20CW%20SF%20CW%2009%2012%2014.pdf. Adalwyd 31 December 2018.
- ↑ Walther, S.; Yamamoto, M.; Thigpen, A.P.; Garcia, A.; Willits, N.H.; Hart, L.A. (2017). "Assistance Dogs: Historic Patterns and Roles of Dogs Placed by ADI or IGDF Accredited Facilities and by Non-Accredited U.S. Facilities". Frontiers in Veterinary Science 4: 1. doi:10.3389/fvets.2017.00001. PMC 5243836. PMID 28154816. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5243836.
- ↑ "Seizure-alert dogs: a review and preliminary study". Seizure 12 (#2): 115–120. 2003. doi:10.1016/S105913110200225X. PMID 12566236.
- ↑ Kim Kavin (2016-05-03). The Dog Merchants: Inside the Big Business of Breeders, Pet Stores, and Rescuers (yn Saesneg). Simon and Schuster. ISBN 978-1-68177-170-0.
- ↑ Anna Bueno (6 January 2017). "The legal and cultural implications of killing a dog for film". CNN Philippines. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-16. Cyrchwyd 2022-02-08.
- ↑ Simoons, Frederick J. (1994). Eat not this flesh: food avoidances from prehistory to the present (arg. second). University of Wisconsin Press. tt. 208–212. ISBN 978-0-299-14254-4.
- ↑ "How many dogs and cats are eaten in Asia?". Animalpeoplenews.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 January 2012. Cyrchwyd 19 December 2012.
- ↑ "China bans dog meat at infamous Yulin festival". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-10-11.
- ↑ Schwabe, Calvin W. (1979). Unmentionable Cuisine. Charlottesville: University Press of Virginia. t. 173. ISBN 978-0-8139-1162-5.
- ↑ "Poland prosecutors probe dog lard sale". United Press International. 10 August 2009.
- ↑ Day, Matthew (7 August 2009). "Polish couple accused of making dog meat delicacy". London: Telegraph.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 January 2022. Cyrchwyd 21 December 2010.
- ↑ Ayzirek Imanaliyeva (13 August 2020). "Fighting COVID in Kyrgyzstan: Dog fat, ginger and bloodletting". Eurasianet (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-11.
- ↑ "Dog meat restaurants spring up in Uzbekistan". Uznews.net. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 June 2010. Cyrchwyd 24 October 2012.
- ↑ "Korea dog meat campaigners accused of hypocrisy". The Straits Times, Agence France-Presse. 27 December 2017.
- ↑ Ahmed Zihni (2004). "Dog Meat Dilemma". Stony Brook University - The Program in Writing and Rhetoric. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 August 2007. Cyrchwyd 11 May 2008.
- ↑ John Feffer (2 June 2002). "The Politics of Dog – When globalization and culinary practice clash". The American Prospect. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 April 2006. Cyrchwyd 11 May 2007.
- ↑ Pettid, Michael J., Korean Cuisine: An Illustrated History, London: Reaktion Books Ltd., 2008, 25. ISBN 978-1-86189-348-2