Gemau'r Gymanwlad 2002: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) B Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB |
||
Llinell 25: | Llinell 25: | ||
==Uchafbwyntiau'r Gemau== |
==Uchafbwyntiau'r Gemau== |
||
Llwyddodd [[David Morgan]] i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf |
Llwyddodd [[David Morgan]] i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth [[Codi Pwysau]] er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng [[Gemau'r Gymanwlad 1982|1982]] a 2002. Roedd yna lwyddiant arbennig i ynys [[Nawrw]] yn y gystadleuaeth [[Codi Pwysau]] hefyd wrth i'r ynys fechan yn y Môr Tawel sydd a phoblogaeth o 9,434<ref>https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/geos/nr.html</ref> sicrhau dwy fedal aur, pump medal arian ac wyth medal efydd. |
||
Casglodd [[St Kitts a Nevis]] eu hunig medal yn hanes y Gemau hyd yma pan ennillodd [[Kim Collins]] y 100m i ddynion a llwyddodd [[Ynysoedd Caiman]] a [[Sant Lwsia]] i gasglu eu medalau cyntaf yn hanes y Gemau wrth i [[Kareem Streete-Thompson]] ennill y fedal efydd yn y naid hir ar ran [[Ynysoedd Caiman]] gyda [[Dominic Johnson]] yn ennill medal efydd yn y naid â pholyn i [[Sant Lwsia]]. |
Casglodd [[St Kitts a Nevis]] eu hunig medal yn hanes y Gemau hyd yma pan ennillodd [[Kim Collins]] y 100m i ddynion a llwyddodd [[Ynysoedd Caiman]] a [[Sant Lwsia]] i gasglu eu medalau cyntaf yn hanes y Gemau wrth i [[Kareem Streete-Thompson]] ennill y fedal efydd yn y naid hir ar ran [[Ynysoedd Caiman]] gyda [[Dominic Johnson]] yn ennill medal efydd yn y naid â pholyn i [[Sant Lwsia]]. |
||
Llinell 245: | Llinell 245: | ||
==Medalau'r Cymry== |
==Medalau'r Cymry== |
||
Roedd '''214''' aelod yn nhîm Cymru; y nifer fwyaf erioed. Llwyddodd [[David Morgan]] i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf |
Roedd '''214''' aelod yn nhîm Cymru; y nifer fwyaf erioed. Llwyddodd [[David Morgan]] i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth [[Codi Pwysau]] er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng [[Gemau'r Gymanwlad 1982|1982]] a 2002. |
||
{| class="{{{class|wikitable}}}" style="text-align:center;" |
{| class="{{{class|wikitable}}}" style="text-align:center;" |
Fersiwn yn ôl 01:30, 17 Ionawr 2018
17eg Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 17 | ||
Seremoni agoriadol | 25 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 4 Awst | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Elizabeth II | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 2002 oedd yr ail tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Manceinion, Lloegr oedd cartref y Gemau rhwng 25 Gorffennaf - 4 Awst. Pleidleisiodd Cyngor Gemau Gymanwlad Lloegr i enwebu Manceinion ar draul Llundain fel ymgeisydd y wlad ar gyfer cynnal Gemau 2002[1] ac wedi i ddiddordeb Adelaide, Awstralia a Cape Town, De Affrica bylu, cafodd Manceinion eu dewis fel lleoliad Gemau 2002 yn ystod cyfarfod o ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Bermiwda ym 1995[2].
Cyflwynwyd Tenis Bwrdd a Triathlon i'r Gemau am y tro cyntaf gyda Bowlio Deg a Chriced yn diflannu, dychwelodd Jiwdo i'r Gemau am y tro cyntaf ers 1990 ac am y tro cyntaf cafwyd cystadlaethau i athletwyr elît gydag anabledd ochr yn ochr ag athletau heb anabledd.
Dyma oedd y Gemau olaf i Simbabwe fynychu cyn gadael y Gymanwlad yn 2003.
Uchafbwyntiau'r Gemau
Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002. Roedd yna lwyddiant arbennig i ynys Nawrw yn y gystadleuaeth Codi Pwysau hefyd wrth i'r ynys fechan yn y Môr Tawel sydd a phoblogaeth o 9,434[3] sicrhau dwy fedal aur, pump medal arian ac wyth medal efydd.
Casglodd St Kitts a Nevis eu hunig medal yn hanes y Gemau hyd yma pan ennillodd Kim Collins y 100m i ddynion a llwyddodd Ynysoedd Caiman a Sant Lwsia i gasglu eu medalau cyntaf yn hanes y Gemau wrth i Kareem Streete-Thompson ennill y fedal efydd yn y naid hir ar ran Ynysoedd Caiman gyda Dominic Johnson yn ennill medal efydd yn y naid â pholyn i Sant Lwsia.
Ar ôl methu cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2000 yn Sydney am ei bod yn rhy ifanc[4], llwyddodd Nicole Cooke i gasglu medal aur i Gymru yn y ras lôn yn y gystadleuaeth Feicio..[5]
Yn y pwll Nofio llwyddodd Ian Thorpe o Awstralia i ennill chwe medal aur ac un arian a llwyddodd i dorri record byd yn y 400m dull rhydd gan ddod y person cyntaf i ennill 10 medal aur yn holl hanes y Gemau.[6][7]
Chwaraeon
|
Timau yn cystadlu
Cafwyd 72 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2002
Tabl Medalau
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Awstralia | 82 | 62 | 63 | 207 |
2 | Lloegr | 54 | 52 | 60 | 166 |
3 | Canada | 31 | 41 | 46 | 118 |
4 | India India | 30 | 22 | 17 | 69 |
5 | Seland Newydd | 11 | 13 | 21 | 45 |
6 | De Affrica | 9 | 20 | 17 | 46 |
7 | Camerŵn | 9 | 1 | 2 | 12 |
8 | Malaysia | 7 | 6 | 18 | 34 |
9 | Cymru | 6 | 13 | 12 | 31 |
10 | Yr Alban | 6 | 8 | 16 | 30 |
11 | Nigeria | 5 | 3 | 12 | 20 |
12 | Cenia | 4 | 8 | 4 | 16 |
13 | Jamaica | 4 | 6 | 7 | 17 |
14 | Singapôr | 4 | 2 | 7 | 13 |
15 | Bahamas | 4 | 0 | 4 | 8 |
16 | Nawrw | 2 | 5 | 8 | 15 |
17 | Gogledd Iwerddon | 2 | 2 | 1 | 5 |
18 | Cyprus | 2 | 1 | 1 | 4 |
19 | Pacistan | 1 | 3 | 4 | 8 |
20 | Ffiji | 1 | 1 | 1 | 3 |
20 | Sambia | 1 | 1 | 1 | 3 |
22 | Simbabwe | 1 | 1 | 0 | 2 |
23 | Namibia | 1 | 0 | 4 | 5 |
24 | Tansanïa | 1 | 0 | 1 | 2 |
25 | Bangladesh | 1 | 0 | 0 | 1 |
25 | Gaiana | 1 | 0 | 0 | 1 |
25 | Mosambic | 1 | 0 | 0 | 1 |
25 | St Kitts a Nevis | 1 | 0 | 0 | 1 |
29 | Botswana | 0 | 2 | 1 | 3 |
30 | Wganda | 0 | 2 | 0 | 2 |
31 | Samoa | 0 | 1 | 2 | 3 |
32 | Trinidad a Tobago | 0 | 1 | 0 | 1 |
33 | Barbados | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Ynysoedd Caiman | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Ghana | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Lesotho | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Malta | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Mawrisiws | 0 | 0 | 1 | 1 |
33 | Sant Lwsia | 0 | 0 | 1 | 1 |
Cyfanswm | 282 | 280 | 336 | 898 |
Medalau'r Cymry
Roedd 214 aelod yn nhîm Cymru; y nifer fwyaf erioed. Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002.
Cyfeiriadau
- ↑ http://www.independent.co.uk/sport/commonwealth-games-manchester-celebrates-capital-conquest-london-loses-out-to-olympic-rival-in-fight-for-the-right-to-present-englands-bid-1391745.html
- ↑ http://www.independent.co.uk/sport/manchester-given-commonwealth-nod-1537475.html
- ↑ https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/geos/nr.html
- ↑ http://news.bbc.co.uk/sportacademy/hi/sa/special_events/cycling/newsid_3909000/3909169.stm
- ↑ http://www.thecgf.com/sports/results.asp
- ↑ http://news.bbc.co.uk/sport3/commonwealthgames2002/hi/swimming/newsid_2166000/2166261.stm
- ↑ http://www.thecgf.com/records/default.asp
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Kualar Lumpur |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Melbourne |