Llangwyllog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6661549 (translate me)
Llinell 19: Llinell 19:
[[Categori:Pentrefi Môn]]
[[Categori:Pentrefi Môn]]
[[Categori:Plwyfi Cymru]]
[[Categori:Plwyfi Cymru]]

[[en:Llangwyllog]]

Fersiwn yn ôl 08:31, 14 Mawrth 2013

Eglwys Llangwyllog.

Pentref bychan gwledig a phlwyf yng nghanol Ynys Môn yw Llangwyllog.

Fe'i lleolir tair milltir i'r gogledd o dref Llangefni a dwy filltir o Lyn Cefni. Cofnodir poblogaeth o 277 yn 1821, ond erbyn 1971 dim ond 75 o bobl oedd yn byw yno.

Mae'r eglwys yn weddol hen gyda rhannau yn dyddio o'r 15fed ganrif efallai. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan y Santes Cwyllog (Cywyllog) yn y 6ed ganrif ar dir a roddwyd iddi gan y brenin Maelgwn Gwynedd.[1]

Yn yr Oesoedd Canol gorweddai'r plwyf yng nghwmwd Menai. Bu brwydr yn y cyffiniau yn y flwyddyn 1134 rhwng byddin Owain Gwynedd, brenin Teyrnas Gwynedd, a llu o Northmyn a Manawyr a geisiodd oresgyn yr ynys. Enillodd gwŷr Gwynedd y dydd.

Rhoddodd y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth Eglwys Gwyllog a'i degwm i Briordy Penmon.[2]

Roedd gan Lein Amlwch (Rheilffordd Canolbarth Môn) orsaf yn Llangwyllog nes i'r lein gau yn 1993. Mae'n dŷ preifat heddiw.

Cyfeiriadau

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
  2. A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982), tud. 272.