Yr Wyddgrug
Y stryd fawr a'r eglwys | |
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 10,155 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.166°N 3.133°W |
Cod SYG | W04000197, W04000995 |
Cod OS | SJ237640 |
Cod post | CH7 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw'r Wyddgrug. Mae hi'n gorwedd ar groesffordd hanner ffordd rhwng Rhuthun i'r gorllewin a Chaer i'r dwyrain. Mae'r A494 yn pasio'r dref i'r dwyrain. Tu ôl i'r Wyddgrug mae'r tir yn codi i lethrau coediog Bryniau Clwyd. Cynhelir marchnad lwyddiannus ynghanol y dref bob dydd Mercher, ac mae'r Stryd Fawr yn ffynnu. Mae llwyfan awyr-agored ynghanol y dref, a chynhelir digwyddiadau cerddorol o dro i dro. Cynhelir twmpathau yn neuadd yr eglwys pedair gwaith bob blwyddyn. Ystyr enw y dref yw "bryncyn neu dwmpath uchel" (yr un ystyr ag enw Saesneg y dref, Mold: o'r Ffrangeg Normanaidd Monthault sy'n golygu "bryn uchel"). Yn ôl yr Athro Hywel Wyn Owen, mae'n debycach mai'r un 'gŵydd' yw hwn ac 'yn eich gŵydd' hy 'golwg' ac mai ystyr Yr Wyddgrug felly yw 'Bryn Amlwg'.[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn ôl traddodiad, ymladdwyd Brwydr Maes Garmon ar lecyn tua milltir i'r gorllewin o'r dref bresennol yn OC 430. Enillodd y Cymry y dydd, dan arweiniad Sant Garmon, yn erbyn eu gelynion paganaidd.
Cynhelid llys ar gylch Llywelyn ap Gruffudd yn y Wyddgrug ar 22 Gorffennaf, 1273. Roedd gan y Wyddgrug ei gastell yn yr Oesoedd Canol a nodir ei safle gan Fryn y Beili, sy'n ardd gyhoeddus bellach. Ym 1245, cafodd ei gipio gan Dafydd ap Llywelyn.
Addysg
[golygu | golygu cod]Ceir dwy ysgol uwchradd yn Yr Wyddgrug, Ysgol Alun (Saesneg ei hiaith) ac Ysgol Maes Garmon (Cymraeg ei hiaith).
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Eisteddfod Genedlaethol
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug ym 1923, 1991 a 2007. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1923
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Rheinallt ap Gruffudd (bu farw 1465), arglwydd y Tŵr ac arweinydd gwladgarol, un o amddiffynwyr Castell Harlech yn Rhyfeloedd y Rhosynnau
- Jane Brereton (1685-1740), bardd
- Richard Wilson (1714-1782), arlunydd. Mae ei fedd ym mynwent yr eglwys.
- John Humphreys Parry neu John Humffreys Parry (1786-1825), golygydd, hynafiaethydd a newyddiadurwr
- John Blackwell (Alun) (1797-1841), bardd. Fe'i ganwyd ym Mhonterwyl ger yr Wyddgrug.
- Thomas Jones (Glan Alun) (1811-1866), bardd
- Roger Edwards (1811-1886), gweinidog, emynydd, golygydd Y Drysorfa
- John Ambrose Lloyd (1815-1874), cerddor a chyfansoddwr
- Daniel Owen (1836-1895), nofelydd. Fe'i ganwyd yn yr Wyddgrug; cafodd ei gladdu ym mynwent y dref yn 1895.
- Jonny Buckland (1977-), gitarydd yn y grwp Coldplay
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Cerrig yr Orsedd
-
Bryn y Beili
-
Cofeb rhyfel
-
Y Stryd Fawr o'r Groesffordd
-
Yr Hen Lys
-
10 Stryd Wrecsam, yr Wyddgrug
-
Colofnau Capel Bethesda
-
Adeialdau'r Cyngor Sir, Heol yr Iarll; cynt - Territorial Force Association.
-
Tafarn Y Dolffin
-
Bedd Richard Wilson, arlunydd Cymreig.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Clogyn aur Yr Wyddgrug
- Terfysg yr Wyddgrug 2 Mehefin 1869.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 326
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog