Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Wrexham)
Jump to navigation Jump to search
Wrecsam
Skyline of Wrexham town centre.jpg
Mathtref farchnad, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth61,603 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iRacibórz, Iserlohn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaGwaunyterfyn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0463°N 2.9932°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ335505 Edit this on Wikidata
Cod postLL1-14 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLesley Griffiths (Llafur)
AS/auSarah Atherton (Ceidwadwyr)
Gweler hefyd Wrecsam (gwahaniaethu).

Dinas[1] yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Wrecsam[2][3] (Saesneg: Wrexham). Mae'n canolfan weinyddol Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'r dref fwyaf o ran poblogaeth yng ngogledd Cymru, gyda phoblogaeth o dros 42,576 yn Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001, ac roedd gan Ardal Drefol Wrecsam, fel y diffinwyd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, boblogaeth o 63,084.[4] Mae gan ardal ehanagach Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n gorchuddio ardal o 50,500 hectar, boblogaeth o dros 130,000. Hon yw'r dref nawfed fwyaf yng Nghymru yn ôl poblogaeth, ond y pedwrydd yn ôl ei hardal drefol. Yn hanesyddol bu'n rhan o'r hen Sir Ddinbych, ac mae'n rhan o sir seremonïol Clwyd. Yr enw Saesneg Wristleham yw tarddiad yr enw Wrecsam yn Gymraeg, mae'r enw Saesneg hefyd wedi newid i Wrexham erbyn heddiw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Sarah Atherton (Ceidwadwyr).[5][6]

Canol Wrecsam

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tystiolaeth o weithgaredd dyn yn ardal Wrecsam yn dyddio'n hyd i 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae cofnod o Edward I, brenin Lloegr yn aros yn Wrecsam am gyfnod byr yn ystod ei ymgyrch i atal gwrthryfel Madog ap Llywelyn ym 1294. Daeth y dref yn rhan o Sir Ddinbych pan grewyd y sir ym 1536. Roedd Wrecsam wedi ei rannu'n ddwy drefgordd gwahanol, Wrexham Regis (dan reolaeth Brenin Lloegr) a Wrexham Abbot (rhannau hynaf y dref yn gyffredinol, a fu'n eiddo i Abaty Glyn y Groes, Llangollen yn wreiddiol).

Digwyddodd un o'r trychinebau mwyaf erchyll yn hanes pyllau glo Prydain yng Nglofa Gresffordd ger Wrecsam, pan laddwyd 265 o löwyr ar ôl ffrwydrad nwy yn y pwll ar yr 22 Medi 1934.

Clwb Pêl-droed Wrecsam ydyw'r clwb pêl-droed proffesiynol hynaf yng Nghymru.

Mewn rhigwm adnabyddus mae clochdy eglwys Wrecsam yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

Fe wnaeth Cyngor Wrecsam lunio tri cais anllwyddiannus am statws dinas - yn 2000, 2002 a 2012. Yn 2022, llwyddodd eu cais i gael statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth. Roedd yn un o 8 tref a ddewiswyd drwy wledydd Prydain.[1]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym 1888, 1912, 1933, 1977 a 2011.

Addysg uwch[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae yna berthynas freintiedig rhwng Wrecsam (Prifysgol Glyndŵr - Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru cynt) a Saint-Dié-des-Vosges (Institut universitaire de technologie), yn Ffrainc.

Pobol enwog[golygu | golygu cod y dudalen]

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Cais Wrecsam i gael statws dinas yn llwyddiannus , BBC Cymru Fyw, 20 Mai 2022.
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  3. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
  4.  ONS Statistics for Urban Areas 2001.
  5. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  6. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014