Eglwys Gadeiriol Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Gadeiriol Wrecsam
Matheglwys gadeiriol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1857 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam, Offa Edit this on Wikidata
SirWrecsam, Offa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr87 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0474°N 2.9986°W Edit this on Wikidata
Cod postLL11 1RB Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iEin Harglwyddes o'r Gofidion Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Wrecsam Edit this on Wikidata

Cadeirlan Gatholig a leolir yn Stryt y Rhaglaw, Wrecsam, yw Eglwys Gadeiriol y Santes Fair.[1] Fe'i adeiladwyd ym 1857 fel eglwys plwyf a fel cofadail i wraig y diwydiannwr Richard Thompson. Mae beddrod Ellen Thompson, a fu farw ym 1854, i'w ganfod y tu fewn i'r adeilad. Edward Welby Pugin o'r ffỳrm Pugin & Pugin, ag arbenigai mewn eglwysi Catholig, oedd y pensaer; fe gynlluniodd yr eglwys mewn arddull Gothig adfywiedig, yn seiliedig ar adeiladau o'r 13g.[2] Dim ond 23 oed oedd Pugin pan gynlluniodd yr eglwys.[3] Ym marn yr hanesydd eglwysig Nigel Yates, dyma'r gorau o'r tair cadeirlan Gatholig sydd yng Nghymru.[4]

Roedd yr eglwys yn olynydd i gapel Catholig cyntaf Wrecsam, a'i sefydlwyd yn gudd gan Richard Thompson ym 1828, blwyddyn cyn y ddeddf a roddodd y rhyddid i addoli i Gatholigion.[1] Ym 1907 daeth eglwys y Santes Fair yn ddarpar-eglwys gadeiriol ar gyfer esgobaeth Catholig Mynyw,[2] sydd bellach â'i chadeirlan yn Abertawe. Ym 1987 fe'i penodwyd yn eglwys gadeiriol a chanolfan i esgobaeth newydd Wrecsam.[5] Ym 1994 penodwyd yr eglwys a thŷ'r offeirad[6] yn adeiladau rhestredig Gradd II.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Eglwys Gadeiriol y Santes Fair. Taith Cerdded Tref Wrecsam. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Adalwyd ar 23 Awst 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Roman Catholic Cathedral of St. Mary, Regent Street (S Side), Offa. British Listed Buildings. Adalwyd ar 23 Awst 2014.
  3. (Saesneg) Cathedral Church of Our Lady of Sorrows, Wrexham. Gwydr Lliw yng Nghymru / Stained Glass in Wales. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 23 Awst.
  4. Wooding, Jonathan M. a Nigel Yates (gol.) (2011). A Guide to the Churches and Chapels of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, tud. 74
  5.  Catholigiaeth yn Wrecsam. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Adalwyd ar 23 Awst 2014.
  6. (Saesneg) Presbytery at Roman Catholic Cathedral, Regent Street (S Side), Offa. British Listed Buildings. Adalwyd ar 23 Awst 2014.