William Lloyd (mynyddwr)
Gwedd
William Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 29 Rhagfyr 1782 Wrecsam |
Bu farw | 16 Mai 1857 Thebes |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | milwr, dringwr mynyddoedd |
Plant | George Lloyd, George Lloyd |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Chwaraeon |
Milwr a mynyddwr o Gymru oedd Syr William Lloyd (29 Rhagfyr 1782 - 16 Mai 1857). Roedd yn un o arloeswyr dringo yn yr Himalaya.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef yn Wrecsam, yn fab i fanciwr, ac addysgwyd ef yn Rhuthun. Ymunodd â byddin yr Honourable East India Company yn 1798, a dod yn swyddog. Bu'n brif swyddog yn Nagpur am 14 mlynedd. Yn 1822 cychwynnodd ar daith trwy'r Himalaya, gan gyrraedd hyd at Buan Ghati ar y ffin â Tibet. Ar 13 Mehefin, dringodd i gopa Boorendo ar ei ben ei hun; efallai y cofnod cyntaf o ddringo mynydd yn yr Himalaya yn unig er mwyn ei ddringo. Yn 1840, cyhoeddodd hanes ei daith fel The Narrative of a Journey from Cawnpoor to the Boorendo Pass. Gwnaed ef yn farchog yn 1838, ac ymddeolodd i Fryn Estyn, Wrecsam.