Rhisiart Gwyn
Rhisiart Gwyn | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
1 Ionawr 1537, 1537 ![]() Llanidloes ![]() |
Bu farw |
15 Hydref 1584 ![]() Achos: crogi ![]() Wrecsam ![]() |
Man preswyl |
Owrtyn, Powys ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
bardd ![]() |
Dydd gŵyl |
17 Hydref ![]() |
Bardd a reciwsant o Lanidloes, Powys, oedd Rhisiart Gwyn, neu Richard Gwyn neu Richard White (tua 1537 – 17 Hydref 1584).
Yn fab i deulu cefnog o ardal Maldwyn, cafodd ei addysg yng ngholegau Caergrawnt a Rhydychen a bu yn ysgolfeistr yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd yn Babydd a wrthodai gydnabod hawl Elisabeth I i deyrnasu, ac o ganlyniad cafodd ei erlid.
Cyfansoddodd Rhisiart Gwyn gyfres o gerddi mesur rhydd (carolau) yn Gymraeg, sy'n ymosod yn llym ar Brotestaniaeth.
Yng Ngorffennaf 1580 carcharwyd ef ac mewn carchar y bu am weddill eu oes. Ar 9 Hydref 1584 dedfrydwyd ef i'w ddienyddio trwy ei grogi, diberfeddu a'i chwarteru.
Canoneiddwyd ef gan y Pab Pawl VI ar 25 Hydref 1970 fel un o Ddeugain Merthyr Cymru a Lloegr.
Mae egwlys Gatholig Llanidloes, Eglwys Ein Harglwyddes a Sant Rhisiart Gwyn, wedi'i chysegru i Rhisiart Gwyn ynghyd â'r Forwyn Fair.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- T. H. Parry-Williams (gol.), Carolau Richard White (Caerdydd, 1930)