Solfach
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 865, 805 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,499.18 ha |
Cyfesurynnau | 51.8744°N 5.1889°W |
Cod SYG | W04000474 |
Cod OS | SM802243 |
Cod post | SA62 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref glan-môr a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Solfach[1] (hefyd Solfa, Saesneg: Solva). Saif yng ngorllewin y sir, tua 3 milltir i'r dwyrain o Dyddewi, mewn gilfach môr ar Fae Sain Ffraid, ar aber Afon Solfach. Mae'r pentref yn cynnwys Solfach Isaf a Solfach Uchaf. Mae'r cymuned yn cynnwys y pentrefi Solfach, Tre-groes a Felin Ganol.
Mae ganddo harbwr ardderchog a bu'n ganolfan masnach arfordirol am ganrifoedd. Fe'i lleolir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Heddiw mae'r pentref yn ganolfan hwylio a gwyliau glan-môr poblogaidd. Mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwy'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae hanes Solfach fel porthladd yn ymestyn yn ôl i'r 14g o leiaf. Cyfeirir ato gan yr hynafiaethydd George Owen yn 1603. Erbyn 1811 roedd yna 36 o longau'n defnyddio'r porthladd gyda naw warws ar eu cyfer yn y pentref. Roedd nwyddau fel ŷd, barlys a phren yn cael eu hallforio i Fryste a deuai nwyddau cyffredinol yn ogystal â glo a chalch i mewn o Fryste, porthladdoedd De Cymru ac o mor bell i ffwrdd ag Iwerddon. Ond fel yn achos nifer o borthladdoedd bychain tebyg dirywiodd ei fasnach gyda dyfodiad y rheilffyrdd ganol y 19g.
Ceir olion caer oes haearn ar ben Y Gribin, penrhyn ar ochr ddwyreiniol yr harbwr.[4]
Cofnodir fod pobl wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau o Solfach. Yn 1848 y pris am y fordaith oedd £3 i oedolion a 30 swllt i blant. Roedd y siwrnai'n cymryd rhwng 7 a 14 wythnos, gan ddibynnu ar y gwyntoedd a'r tywydd. Roedd y calch a fewnforid i Solfach yn cael ei losgi mewn odynnau yn y pentref a'i werthu wedyn i ffermydd ardal Tyddewi. Peidiwyd y gwaith ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Pobl o Solfa
[golygu | golygu cod]Magwyd pêl-droediwr Cymru Simon Davies yn y pentre a'r canwr Meic Stevens, ysgrifennodd gân adnabyddus am y pentref, Ysbryd Solfa.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Golygfa ar harbwr Solfach
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Christopher John Wright, A Guide to the Pembrokeshire Coast Path (Constable, 1986)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Gwefan yr Ymddiriodolaeth Genedlaethol
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Dinas
Tyddewi
Trefi
Aberdaugleddau · Arberth · Abergwaun · Cilgerran · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · Hwlffordd · Neyland · Penfro · Wdig
Pentrefi
Aber-bach · Abercastell · Abercuch · Abereiddi · Aberllydan · Amroth · Angle · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd-bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm-yr-Eglwys · Dale · Dinas · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Jeffreyston · Johnston · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maiden Wells · Manorowen · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Pentre Galar · Pontfadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Fflwrens · Sain Ffrêd · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Trefwrdan · Treglarbes · Tre-groes · Treletert · Tremarchog · Uzmaston · Waterston · Yerbeston