Llanarmon-yn-Iâl
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0965°N 3.2114°W ![]() |
Cod SYG | W04000157 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych yw Llanarmon-yn-Iâl( ynganiad ) (Llanarmon ar lafar yn lleol). Saif ar y ffordd B5431, gerllaw'r gyffordd a'r B5430, i'r dwyrain o dref Rhuthun a chwe milltir i'r de o'r Wyddgrug. Llifa Afon Alun heibio'r pentref, ac mae Llwybr Clawdd Offa rhyw filltir a hanner i'r gorllewin.
Yn ogystal â Llanarmon ei hun, mae'r gymunedd yn cynnwys pentrefi llai Eryrys a Graeanrhyd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]
Hanes a henebion[golygu | golygu cod y dudalen]
Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 14g, i Sant Garmon; dyma ganolfan eglwysig draddodiadol cwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog).
Ar gwr y pentref ceir Tomen y Faerdre, amddiffynfa o'r 12g.
Mewn ogof yma ceir un o'r ychydig olion yng Nghymru sy'n dyddio yn ôl tua 10,000 o flynyddoedd i'r cyfnod Mesolithig (sef Oes Ganol y Cerrig).
Pobl o'r gymuned[golygu | golygu cod y dudalen]
- John Parry, arweinydd Rhyfel y Degwm o 1886 ymlaen.
- Robert Bryan (1858–1920), llenor a cherddor.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen ·
Dinbych ·
Llangollen ·
Prestatyn ·
Rhuddlan ·
Rhuthun ·
Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler ·
Betws Gwerful Goch ·
Bodelwyddan ·
Bodfari ·
Bontuchel ·
Bryneglwys ·
Bryn Saith Marchog ·
Carrog ·
Cefn Meiriadog ·
Clocaenog ·
Cwm ·
Cyffylliog ·
Cynwyd ·
Derwen ·
Diserth ·
Y Ddwyryd ·
Efenechtyd ·
Eryrys ·
Four Crosses ·
Gallt Melyd ·
Gellifor ·
Glyndyfrdwy ·
Graeanrhyd ·
Graigfechan ·
Gwyddelwern ·
Henllan ·
Loggerheads ·
Llanarmon-yn-Iâl ·
Llanbedr Dyffryn Clwyd ·
Llandegla ·
Llandrillo ·
Llandyrnog ·
Llandysilio-yn-Iâl ·
Llanelidan ·
Llanfair Dyffryn Clwyd ·
Llanferres ·
Llanfwrog ·
Llangwyfan ·
Llangynhafal ·
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch ·
Llanynys ·
Maeshafn ·
Melin y Wig ·
Nantglyn ·
Pandy'r Capel ·
Pentrecelyn ·
Pentre Dŵr ·
Prion ·
Rhewl (1) ·
Rhewl (2) ·
Rhuallt ·
Saron ·
Sodom ·
Tafarn-y-Gelyn ·
Trefnant ·
Tremeirchion