Clawddponcen

Oddi ar Wicipedia
Clawddponcen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.990339°N 3.379582°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ074445 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Corwen, Sir Ddinbych, Cymru yw Clawddponcen[1] neu Clawdd Poncen.[2] Saif tua 1.3 milltir (2.1 km) i'r gogledd-orllewin o dref Corwen, ar lan arall Afon Dyfrdwy.

I'r gogledd o'r pentref mae stad ddiwydiannol Ty'n Llidiart, sy'n gartref i bencadlys Trelars Ifor Williams, gwneuthurwr mawr o drelars a faniau ceffylau. Gwahanir ardal ddiwydiannol ac ardal breswyl y pentref gan ffordd y B5437, sy'n rhedeg tua'r gorllewin i groesffordd yr A5104 am dref Rhuthun a phentref Llandegla, ac i'r dwyrain tuag at bentref Carrog.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Baynes (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Awst 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato