Y Betws

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Betws)
Y Betws
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,175 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,115.68 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.787°N 3.982°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000492 Edit this on Wikidata
Cod OSSN633116 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map
Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).

Pentref bychan a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Y Betws.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[2][3]

Y gymuned[golygu | golygu cod]

Gorwedd cymuned Y Betws rhwng Afon Aman, sydd i’r gogledd, ac Afon Cathan i’r De, sy’n dynodi’r ffin sirol rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Abertawe. O edrych i’r gorllewin, gwelir dyffryn eang y Llwchwr. Yna gwelir Mynydd y Betws, sy’n ffurfio ochr ddeheuol Dyffryn Aman, yn codi i uchder o 371m ym Mhenlle’r Castell, sydd dafliad carreg tu allan i’r ffin gymunedol.

Fel nifer o gymunedau eraill yn Nyffryn Aman, cafodd cyfnod y diwydiannau trymion gryn ddylanwad ar y Betws. Gwelwyd cyfnod pan oedd sawl gwaith glo yn y gymuned, ac roedd y bobl leol yn dibynnu ar y diwydiant glo am waith a bywoliaeth. Er fod gan y Betws nifer o nodweddion pentref glofaol bychan, sef y tai teras, y tafarndai, y capel a’r eglwys, gorwedd y gymuned wrth ymyl tir comin Mynydd y Betws, ac nid yw’r gymuned erioed wedi colli’r awyrgylch gwledig, ac mae llethrau mynydd y Betws yn frith o ffermydd, tyddynnod a bythynnod.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Betws (pob oed) (2,175)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws) (1,109)
  
53.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws) (1746)
  
80.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Betws) (338)
  
37.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]