Mynydd y Betws

Oddi ar Wicipedia
Mynydd y Betws
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr373 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7673°N 3.9375°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN6647309487 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd205 metr Edit this on Wikidata
Map

Mynydd ar y ffîn rhwng Sir Gaerfyrddin a sir Abertawe yn ne Cymru yw Mynydd y Betws; cyfeiriad grid SN664094. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 168metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Saif gerllaw'r ffordd gefn rhwng Rhydaman a Clydach, ac mae pentrefi Y Betws a Pantyffynnon wrth ei droed. Ef yw'r copa uchaf rhwng Afon Llwchwr ac Afon Clydach, a'r copa uchaf yn sir Abertawe. Gerllaw'r copa mae adfeilion castell, Penlle'r Castell.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 373 metr (1224 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]