Belarwsiaid
Gwedd
Hen ffotograff o'r werin Felarwsiaidd o ardal Babruysk. | |
Cyfanswm poblogaeth | |
---|---|
9–10 miliwn | |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
Belarws, Rwsia, Yr Wcráin, Latfia, Casachstan, Gwlad Pwyl, Lithwania | |
Ieithoedd | |
Belarwseg, Rwseg | |
Crefydd | |
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, Yr Eglwys Babyddol | |
Grwpiau ethnig perthynol | |
Rwsiaid, Wcreiniaid, Rwtheniaid |
Cenedl a grŵp ethnig Slafig sydd yn frodorol i wlad Belarws yn Nwyrain Ewrop yw'r Belarwsiaid. Belarwseg yw eu hiaith frodorol, er bod Rwseg yn iaith ddyddiol y mwyafrif erbyn heddiw. Maent yn cyfrif am ryw 84% o boblogaeth Belarws. Maent yn un o'r bobloedd Slafig Ddwyreiniol ac yn perthyn yn agos i'r Rwsiaid, yr Wcreiniaid a'r Rwtheniaid.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae gwybodaeth o lên gwerin yn parhau yng nghefn gwlad Belarws, er bod nifer o hen draddodiadau'r werin wedi darfod o ganlyniad i drefoli.
Crefydd
[golygu | golygu cod]Mae'r mwyafrif o Felarwsiaid yn aelodau'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Yn hanesyddol, yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd oedd y brif eglwys ym Melarws, a dim ond ychydig o offeiriaid oedd yn pregethu drwy gyfrwng y Felarwseg.