Dinas San Steffan
![]() |
|
| Daearyddiaeth | |
|---|---|
| Statws | Bwrdeistref Llundain |
| Arwynebedd — Cyfanswm |
Safle: 318fed 21.48 km² |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth — Cyfanswm (2007 amcan.) — Dwysedd |
Safle: 55ed (allan o 326) 234,100 10,900 / km² |
| Grwpiau ethnig | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Llywodraeth | Arweinydd a Chabinet |
| Maer | Cynghorydd Carolyn Keen |
| Parti mewn pŵer | Ceidwadwyr |
| ASau | Karen Buck (Llafur) Mark Field (Ceidwadwyr) |
| Cynulliad Llundain —Aelod |
Canol gorllewinol Kit Malthouse (Ceidwadwyr) |
| Gwefan swyddogol | http://www.westminster.gov.uk/ |
Bwrdeistref gyda statws dinas yn Llundain yw Dinas San Steffan. Fe'i lleolir i'r gorllewin o Ddinas Llundain ac i'r gogledd o Afon Tafwys, gan ffurfio rhan o Llundain Fewnol a'r rhan fwyaf o ardal canolog Llundain.
Mae'r ddinas yn cynnwys West End Llundain ac mae'n gartref i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ynghyd â Phalas San Steffan, Palas Buckingham, Whitehall a'r Llys Cyfiawnder Brenhinol.
Ym 1965 crewyd y bwrdeistref hwn yn Llundain o hen Fwrdeisdref Fetropolitanaidd San Marylebone, Bwrdeistref Fetropolitanaidd Paddington a Dinas San Steffan a oedd yn llai o ran maint. Mae'r bwrdeistref yn gorchuddio arwynebedd llawer mwy na lleoliad gwreiddiol San Steffan.
Cynnwys |
[golygu] Ardaloedd
Mae'r ardaloedd (neu ran o'r ardaloedd) canlynol i gyd yn dod o fewn Dinas San Steffan:
- Bayswater
- Belgravia
- Covent Garden
- Fitzrovia
- Holborn
- Hyde Park
- Knightsbridge
- Lisson Grove
- Maida Vale
- Mayfair
- Marylebone
- Millbank
- Paddington
- Pimlico
- Queen's Park
- St James's
- St John's Wood
- Soho, yn cynnwys Chinatown
- Temple (Llundain) (rhan)
- "Theatreland"
- Westbourne Green
- West End
- San Steffan Canolog
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Dinas San Steffan
- (Saesneg) Westminster, gan Syr Walter Besant a Geraldine Edith Mitton a A. Murray Smith, 1902, o Prosiect Gutenberg
