Cytundeb Warsaw

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pact Warsaw)
Cytundeb Warsaw
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhyngwladol, cynghrair milwrol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebSefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Daeth i ben1 Gorffennaf 1991 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Mai 1955 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPeople's Socialist Republic of Albania, Gweriniaeth Pobl Bwlgaria, Gwladwriaeth Sosialaidd Tsiecoslofac, Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, Gweriniaeth Pobl Hwngari, Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Gweithwyr7.2 Edit this on Wikidata
PencadlysMoscfa Edit this on Wikidata
Enw brodorolДоговор о дружбе, сотрудничестве и взаимной помощи Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aelodau Cytundeb Warsaw 1956-1968

Cynghrair milwrol oedd Cytundeb Warsaw. Fe'i sefydlwyd er mwyn diogelu'r aelod-wladwriaethau rhag bygythiad gan NATO (a sefydlwyd ym 1949) ar ôl i Orllewin yr Almaen ymuno â'r sefydliad hwnnw. Drafftiwyd y cytundeb gan Khrushchev ym 1955 ac fe'i arwyddwyd ar 14 Mai 1955 yn Warsaw.

Aelodau'r Cytundeb oedd:

Arwyddwyd y cytundeb gan bob un o wledydd Dwyrain Ewrop, heblaw am Iwgoslafia. Pwrpas y cytundeb oedd amddiffyn aelodau rhag ymosodiad o'r tu allan. Daeth y cytundeb i ben ar 31 Mawrth 1991 ar ôl cwymp comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop, ac fe'i ddiddymwyd yn swyddogol ar 1 Gorffennaf ym Mhrâg. Gadawodd Albania'r cytundeb ym 1961 ar ôl i'w llywodraeth Stalinaidd ochri gyda Tsieina yn dilyn hollt rhwng yr Undeb Sofietaidd a Tsieina.

Hanes[golygu | golygu cod]

Rheolwyd y cytundeb gan yr Undeb Sofietaidd, ac fe rwystrodd yr undeb y gwledydd eraill rhag gadael, er enghraifft yn ystod Chwyldro Hwngari ym 1956. Bwriadodd Hwngari adael y cytundeb i fod yn niwtral, ond daeth byddin yr Undeb Sofietaidd i'r wlad i atal y chwyldro rhag lwyddo.

Yn ystod Gwanwyn Prag ym 1968 aeth byddin Sofietaidd i Tsiecoslofacia er mwyn atal diwygiadau democrataidd yn y wlad. Felly, daeth polisi yr Undeb Sofietaidd ar gyfer Cytundeb Warsaw yn amlwg: sef, rhwystro pob aelod rhag troi yn wlad gyfalafol (Athrawiaeth Brezhnev).

Parhaodd y Rhyfel Oer am dros 35 o flynyddoedd, ond ni fu yr un frwydr rhwng gwledydd Cytundeb Warsaw a gwledydd NATO. Ym mis Rhagfyr 1988 datganodd Mikhail Gorbachev, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, athrawiaeth newydd yn lle Athrawiaeth Brezhnev. Ar ôl hynny gadawyd i bob aelod-wladwriaeth i ddilyn eu ffyrdd eu hunain. O ganlyniad, dechreuodd cyfnod o ddiwygiadau ym mhob un o'r gwledydd o 1989 ymlaen. Gadawodd nifer ohonyn nhw'r cytundeb bob yn ail er mwyn bod yn fwy annibynnol yn filwrol oddi wrth yr Undeb Sofietaidd. O ganlyniad diddymwyd y cytundeb ar 1 Gorffennaf 1991.

Ar 12 Mawrth 1999 ymunodd y Weriniaeth Tsiec, Hwngari a Gwlad Pwyl â NATO. Ym mis Mawrth 2004 ymunodd Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Rwmania a Slofacia hefyd (yn ogystal â Slofenia, a oedd yn rhan o Iwgoslafia cyn hynny ac felly ddim yn rhan o Gytundeb Warsaw).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]