Cwthbert
Cwthbert neu o bosib 'Cynbryd' Cuthbert | |
---|---|
Ffenestr liw yn Eglwys Crist, Dulyn, yn darlunio Sant Cwthbert. | |
Esgob | |
Ganwyd | c. 634 Dunbar, Teyrnas Northumbria (yr Alban) |
Bu farw | 20 Mawrth 687 Ynysoedd Farne, Teyrnas Northumbria (bellach yn Lloegr) |
Mawrygwyd yn | Yr Eglwys Gatholig; Anglicaniaeth; Eglwys Uniongred Ddwyreiniol |
Prif gysegr | Eglwys Gadeiriol Durham, Swydd Durham |
Gwyliau | 20 Mawrth (yr Eglwys yn Lloegr); 4 Medi (yr Eglwys yng Nghymru); 31 Awst (Eglwys Episgobaidd (UDA)) |
Symbol/au | Esgob yn gafael mewn pen gyda choron arno; weithiau ceir anifeiliaid, yn enwedig adar yr arfordir. |
Nawddsant | Northumbria |
Sant a mynach o'r Eglwys Northumbriaidd neu'r Eglwys Geltaidd oedd Cwthbert neu Gwthbert o Lindisfarne (tua 634 – 20 Mawrth 687). Roedd yn esgob ac yn feudwy a gysylltir gyda mynachlogydd Maolros (ystyr: 'moel' a 'rhos'; Gaeleg: Maol-Rois; Melrose yn Saesneg) a Lindisfarne (hen enw Cymraeg: Ynys Metcaud) yn yr hen deyrnas a ellir heddiw ei galw'n Deyrnas Northumbria yng ngogledd-ddwyrain Lloegr ac a ffurfiwyd allan o'r hen deyrnas Geltaidd Brynaich tua 634.
Daeth yn un o seintiau pwysicaf Gogledd Lloegr - wedi iddo farw, gyda chwlt o ddilynwyr wedi eu canoli o amgylch ei feddrod yn Eglwys Gadeiriol Durham. Ef yw nawddsant Gogledd Lloegr a chynhelir ei ddiwrnod gŵyl ar 20 Mawrth a 4 Medi.
Mae'n debygol iddo gael ei eni a'i fagu'n agos at Abaty Moelros, un o chwaer abatai Lindisfarne, sydd heddiw wedi'i leoli yng Ngororau'r Alban. Dywedir iddo gael troedigaeth yn 651 a dod yn fynach wedi iddo weld rhith o ysbryd Sant Aidan yn dringo i'r nefoedd ar yr union noson ac y bu Aidan, a sefydlodd Lindisfarne, farw. Rhoddwyd iddo swydd yn Abaty Ripon bron ar unwaith, ond gwnaed Wilfrid yn ben arni ychydig wedyn a dychwelodd Cwthbert gydag Eata o Hexham i Foelros.[1] Tua 662 fe'i wnaed yn brior yn Lindisfarne ac yn 684 dyrchafwyd ef yn esgob. Ond, unwaith eto, byr ydoedd yno a dychwelodd i Foelros wedi cwta dwy flynedd. Dychwelodd gan ei fod yn credu ei fod am farw, er nad oedd ond yn ei 50au.[2]
Dywedir iddo droi'n feudwy eto ar ddiwedd ei oes, gan encilio i fan ger Holburn a elwir hyd heddiw yn Ogof Cwthbert, ac oddi yno aeth i ynysoedd mewnol Ynysoedd Farne (dwy filltir o Bamburgh), gan fyw o'r llaw i'r genau. Dywedir iddo, yn 676, greu deddfau a oedd yn gwarchod anifeiliaid yr ynys, gan gynnwys yr hwyaden. Bu farw yn 687.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'n bosib fod Cwthbert yn gyfyrder i Aldfrith of Northumbria yn ôl llawysgrifau Gwyddelig.[3][4] Cafod y weledigaeth am farwolaeth Sant Aidan pan oedd yn fachgen ifanc yn bugeilio'i ddefaid, a myn rhai nad oedd o deulu ariannog. Dywedir mewn man arall iddo gael ei fabwysiadu, sy'n awgrymu efallai fod ei rieni'n dilyn traddodiad yr oes (i bobl cefnog) sef talu i rieni faethu eu plant.
Fe'i ganed ddeng mlynedd wedi i Edwin, brenin Northumbria (Edwin Gawr) gael troedigaeth i Gristnogaeth. Roedd traddodiadau Celtaidd yr 'Eglwys Fore' felly'n fyw iawn, fel y gwelir yn arferiad Cwthbert o fynd yn alltud i fanau anghysbell, yr "alltudiaeth dros Grist" - arferiad y seintiau Celtaidd.[5][6]
Báetán mac Muirchertaig | |___________________________________________________________ | | | | | | | | | | Colmán Rímid Máel Umai Forannán Fergus Ailill. | | | | | | | |_____________________________ ? Hui Forannáin Cenél Forgusa | | | | | | Cenn Fáelad mac Aillila Sabina Fín = Oswiu o Northumbria | | | | Cwthbert o Lindisfarne Oswiu = ? | |__________________________________________ | | | | | | | | Osred I o Northumbria Offa Osric? Osana?
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Battiscombe, 120–125; Farmer, 57
- ↑ Battiscombe, 125–141; Farmer, 60
- ↑ 'Was St.Cuthbert an Irishman' Google Books
- ↑ Celt.dias.ie Archifwyd 2009-04-24 yn y Peiriant Wayback. Aldfrith of Northumbria and the Irish genealogies. Ireland, C. A., in Celtica 22 (1991).
- ↑ Corning, tud. 18.
- ↑ Koch, p. 432–434.