Henllan, Sir Ddinbych: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Henllan.jpg|250px|bawd|Henllan: canol y pentref]]
[[Delwedd:Henllan village - geograph.org.uk - 32731.jpg|bawd|Henllan: canol y pentref]]
Pentref bychan hanesyddol a [[Cymuned (llywodraeth leol)|chymuned]] yng ngorllewin [[Sir Ddinbych]] yw '''Henllan'''. Saif ar groesffordd wledig tua 3 milltir i'r gogledd-orllewin o dref [[Dinbych]], ar yr hen lôn o'r dref honno i [[Llansannan|Lansannan]].
Pentref bychan hanesyddol a [[Cymuned (llywodraeth leol)|chymuned]] yng ngorllewin [[Sir Ddinbych]] yw '''Henllan''' ({{gbmapping|SJ023681}}). Saif ar groesffordd wledig tua 3 milltir i'r gogledd-orllewin o dref [[Dinbych]], ar yr hen lôn o'r dref honno i [[Llansannan|Lansannan]].


Ceir nifer o hen dai yn y pentref. Mae'r [[eglwys]] yn hynod am fod ei [[clochdy|chlochdy]] yn sefyll ar wahân ar fryncyn [[calchfaen]] isel.
Ceir nifer o hen dai yn y pentref. Mae'r [[eglwys]] yn hynod am fod ei [[clochdy|chlochdy]] yn sefyll ar wahân ar fryncyn [[calchfaen]] isel.

Fersiwn yn ôl 18:52, 23 Medi 2010

Henllan: canol y pentref

Pentref bychan hanesyddol a chymuned yng ngorllewin Sir Ddinbych yw Henllan (cyfeiriad grid SJ023681). Saif ar groesffordd wledig tua 3 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych, ar yr hen lôn o'r dref honno i Lansannan.

Ceir nifer o hen dai yn y pentref. Mae'r eglwys yn hynod am fod ei chlochdy yn sefyll ar wahân ar fryncyn calchfaen isel.

Mae cerdd gan Guto'r Glyn yn y 15fed ganrif yn gofyn i Ddeon Bangor yrru llwyth o lechi iddo o Aberogwen, ger Bangor, i Ruddlan i’w rhoi ar dô tŷ Sir Gruffudd ab Einion ap Tudur ap Heilyn Goch yn Henllan.[1]

Claddwyd yr emynydd Hugh Jones o Faesglasau (1749-1825) ym mynwent eglwys y plwyf yn Ebrill 1825, ar ôl iddo farw yn Ninbych yn 75 oed. Saif Foxhall, cartref teulu Humphrey Lhuyd, o fewn y gymuned.

Cyfeiriadau

  1. Ifor Williams (gol.), Gwaith Guto'r Glyn (Caerdydd, 1939). Tud. 277-8.