Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Nanhyfer"

Jump to navigation Jump to search
No change in size ,  7 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(Ychwanegu gwybodaeth a graff allan o Gyfrifiad 2011 using AWB)
Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant [[Brynach Wyddel|Brynach]]; a chredir bod yr eglwys bresennol, sy'n dyddio o'r cyfnod Normanaidd ond wedi ei hail-adeiladu'n helaeth, ar safle clas Brynach yn y [[6ed ganrif]]. Yn y fynwent mae [[Croes Geltaidd]] yn dyddio o'r [[10fed ganrif]] neu ddechrau'r [[11eg ganrif]]. Gerllaw mae carreg gyda'r arysgrif [[Lladin|Ladin]] "VITALIANI EMERTO" ac mewn [[Ogam]] "vitaliani". Yn yr eglwys mae maen arall gyda'r arysgrif "MAGLOCUNI FILI CLUTORI" mewn Lladin a "maglicunas maqi clutar.." mewn Ogam. Credir bod y garreg yma yn dyddio o'r [[5ed ganrif|5ed]] neu'r [[6ed ganrif]]. Roedd yr hynafiaethydd [[George Owen]] yn frodor o Nanhyfer, ac mae wedi ei gladdu yma.
 
Rhyw 150 medr i'r gogledd-orllewin o'r eglwys mae gweddillion [[Castell Nanhyfer]], a adeiladwyd gan [[Robert fitz Martin]] tua [[1108]]. Dinistriwyd y castell gan y CynryCymry yn [[1136]]. Yn ddiweddarach cafodd ei fab, William fitz Martin, y castell yn ôl pan briododd ferch [[Rhys ap Gruffydd]], ond tua [[1189]] gyrrodd Rhys ef ohono.
 
Mae [[cromlech]] [[Pentre Ifan]] rhyw ddwy filltir o'r pentref.
Defnyddiwr anhysbys

Llywio