Wiseman's Bridge

Oddi ar Wicipedia
Wiseman's Bridge
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7229°N 4.6871°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN144062 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Pentref yng nghymuned Amroth, Sir Benfro, Cymru, yw Wiseman's Bridge. Saif 67 milltir (107.8 km) o Gaerdydd a 196.1 milltir (315.6 km) o Lundain.

Mae'r ffurf Gymraeg Pont-yr-ŵr i'w gweld ar-lein mewn nifer fechan o enghreifftiau.[1] Ond ni chyfeirir at y ffurf honno yn y gwaith safonol ar enwau lleoedd Sir Benfro ac mae ei tharddiad yn dywyll.[2]

Yn y 19g roedd glo lleol o ansawdd uchel yn cael ei allforio o Wiseman's Bridge mewn llongau 50 neu 60 tunnell.[3] Roedd y llwybr droed sy'n cysylltu Wiseman's Bridge a thraeth Coppet Hall ar un adeg yn drac rheilffordd oedd yn cael ei ddefnyddio i gludo glo i Harbwr Saundersfoot.[4][5]

Yn 1943, bu Winston Churchill ar ymweliad â'r ardal, ble roedd y cynghreiriaid yn ymarfer ar gyfer glaniadau D-Day.[6]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[7] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Sir Benfro: Rhybudd bod carthion wedi llifo i'r traeth". BBC Cymru Fyw. 25 Awst 2022. Cyrchwyd 24 Hydref 2023.
  2. Charles, B. G. (1992). The Place Names of Pembrokeshire. Aberystwyth: National Library of Wales. ISBN 9780907158585.
  3. "GENUKI: Amroth". Cyrchwyd 8 Chwefror 2016.
  4. "Visit Saundersfoot". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-03. Cyrchwyd 2017-09-10.
  5. "Old Saundersfoot" gan Roscoe Howells
  6. "Amroth & District Community Association". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2017-09-10.
  7. Gwefan Senedd Cymru
  8. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato