Rhestr o safleoedd ioga
Enghraifft o'r canlynol | erthygl sydd hefyd yn rhestr |
---|---|
Yn cynnwys | rhestr o asanas ioga Hatha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o safle (posture) neu osgo'r corff mewn ioga yw asana, a geir o fewn ioga hatha traddodiadol neu o fewn ioga modern.[1] Mae'r term yn deillio o'r gair Sansgrit am 'sedd'. Er bod llawer o'r asanas hynaf a grybwyllir yn wir yn safleoedd ar gyfer myfyrdod, gall yr asana fod yn sefyll, yn eistedd, cydbwyso ar freichiau, troelli, gwrthdroadau, troadau ymlaen, plygu'r cefn yn ôl, neu'n lledu cluniau mewn safleoedd wyneb i lawr neu ar wastad y cefn. Mae'r asanas wedi cael amryw o enwau cyffredin, gan wahanol ysgolion dros y blynyddoedd.[2]
Mae'r nifer traddodiadol o asanas yn symbolaidd, sef 84, ond mae gwahanol destunau'n nodi detholiadau, gwahanol, gan restru eu henwau weithiau heb eu disgrifio.[3] Mae llawer wedi cael eu hadnabod gan amrywiaeth o enwau, gan ei gwneud hi'n anodd olrhain ac aseinio dyddiadau.[4] Er enghraifft, mae'r enw Muktasana bellach yn cael ei roi i amrywiad o Siddhasana gydag un troed o flaen y llall, ond mae hefyd wedi'i ddefnyddio ar gyfer Siddhasana ac ystumiau myfyrdod traws-goes eraill.[3][5][4] Weithiau, mae gan enwau yr un ystyr, ee Bidalasana a Marjariasana, lle mae'r ddau'n golygu osgo cath.[6][7]
Geirfa a dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Ceir amrywiadau ar y asanas sylfaenol, a chant eu henwi mewn Sanskrit, gan gynnwys y canlynol:
Cymraeg | Sansgrit | Ystyr | Enghraifft |
---|---|---|---|
Adho | अधो | ar i lawr | Adho Mukha Shvanasana (ci ar i lawr) |
Ardha | अर्ध | hanner | Ardha Padmasana (hanner lotws) |
Baddha | बद्ध | rhwym | Baddha Konasana (ongl glwm) |
Dvi | द्वि | dau | Dvi Pada Kaundinyasana (Kaundinya dwy goes) |
Eka | एक | un | Eka Pada Shirshasana (pensefyll un goes) |
Parivritta | परिवृत्त | troi | Parivritta Trikonasana (triongl ochr-arall) |
Prasarita | प्रसारित | lledu | Prasarita Padottanasana (lledu coesau, plygu ymlaen) |
Salamba | षलम्ब | cefnogi | Salamba Shirshasana (pensefyll gyda chymorth) |
Supta | सुप्त | ar y cefn, lledorwedd | Supta Virasana (arwr yn gorwedd) |
Upavishta | उपविष्ठ | yn eistedd | Upavishta Konasana (plygu ymlaen, eistedd ar ongl lydan) |
Urdhva | ऊर्ध्व | i fyny | Urdhva Dhanurasana (bwa i fyny) |
Utthita | उत्थित | estynedig | Utthita Parsvakonasana (ongl ochr estynedig) |
Viparita | विपरीत | gwrthdro | Viparita Dandasana (staff gwrthdro) |
Mae dosbarthu asanas i grwpiau cyffredinol yn newid o ysgol i ysgol, ond, yn fras, mae'r canlynol yn eitha cyffredin:
- Asanas sefyll
- Asanas eistedd
- Asanas penlinio
- Asanas lledorwedd
- Asanas tro
- Asanas gwrthdro (Inverted asanas)
- Asanas ymlaciol
Rhaid cofio fod ambell asana'n perthyn i fwy nag un grwp. Ceir hefyd grwp o asanas a ddefnyddir i fyfyrio.
Asanas
[golygu | golygu cod]Mae Golau ar Ioga (1966) yn rhestru 15 amrywiad ar y pensefyll sylfaenol, gan gynnwys er enghraifft yr amrywiad cyfun Parivrttaikapada Sirsasana lle mae'r cluniau nid yn unig yn cael eu troi ond mae'r coesau ar wahân yn y blaen a'r cefn.[8] Ers hynny, crëwyd amrywiadau lawer o safleoedd eraill. Yn y rhestr isod, ceir y prif asanas ac amrywiadau arnyn nhw yn nhrefn yr wyddor:[9]
Rhestr Wicidata:
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Singleton 2010, tt. 4–5.
- ↑ Murugan 2012.
- ↑ 3.0 3.1 Bühnemann, Gudrun (2007). Eighty-Four Asanas in Yoga: A Survey of Traditions. New Delhi: D. K. Printworld. tt. 47, 151. ISBN 978-8124604175.
- ↑ 4.0 4.1 Sjoman 1999.
- ↑ "Muktasana". Yogapedia. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2018.
- ↑ Lidell 1983.
- ↑ "Cat Pose – Marjariasana". Akasha Yoga. Cyrchwyd 13 Ionawr 2019.
- ↑ Iyengar 1979.
- ↑ McCrary, Meagan (15 Gorffennaf 2015). "#YJ40: 10 Poses Younger Than Yoga Journal". Yoga Journal.
Once you learn how the fundamental poses work anatomically then it's very natural to start to play with breaking them apart and putting them back together differently ... You won't find this playful variation of Warrior II Pose in Light on Yoga.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ayyangar, T. R. Srinivasa (trans.) (1938). The Yoga Upanishads. Adyar, Madras: The Adyar Library.
- Bernard, Theos (2007) [1944]. Hatha yoga : the report of a personal experience. Harmony. ISBN 978-0-9552412-2-2. OCLC 230987898.
- Goldberg, Elliott (2016). The Path of Modern Yoga : the history of an embodied spiritual practice. Inner Traditions. ISBN 978-1-62055-567-5. OCLC 926062252.
- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Thorsons. ISBN 978-1855381667.
- Krishnamacharya, Tirumalai (2006) [1934]. Yoga Makaranda.
- Larson, Gerald James; Bhattacharya, Ram Shankar (2008). Yoga : India's Philosophy of Meditation. Motilal Banarsidass. ISBN 978-81-208-3349-4.
- Lidell, Lucy, The Sivananda Yoga Centre (1983). The book of yoga. Ebury. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
- Mallinson, James (2004). The Gheranda Samhita: the original Sanskrit and an English translation. YogaVidya. ISBN 978-0-9716466-3-6.
- Mallinson, James; Singleton, Mark (2017). Roots of Yoga. Penguin Books. ISBN 978-0-241-25304-5. OCLC 928480104.
- Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley. ISBN 978-0863184208.
- Murugan, Chillayah (20 Hydref 2012). "Yoga Asanas for Health and Fitness". Silambam. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Hydref 2015. Cyrchwyd 31 Mai 2013.
- Powers, Sarah (2008). Insight Yoga. Shambhala. ISBN 978-1-59030-598-0. OCLC 216937520.
- Saraswati, Swami Satyananda (1996). Asana Pranayama Mudra Bandha (PDF). Yoga Publications Trust. ISBN 978-8186336144. Cyrchwyd 2018-11-10.
- Srinivasa, Narinder (2002). Gharote, M. L.; Devnath, Parimal; Jha, Vijay Kant (gol.). Hatha Ratnavali Srinivasayogi | A Treatise On Hathayoga (arg. 1st). Lonavla, India: The Lonavla Yoga Institute. ISBN 81-901176-96.
- Singleton, Mark (2010). Yoga Body : the origins of modern posture practice. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-539534-1. OCLC 318191988.
- Sjoman, Norman E. (1999). The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. ISBN 81-7017-389-2.