Anantasana (Vishnu'n Cysgu)

Oddi ar Wicipedia
Anantasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas lledorwedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana neu osgo'r corff mewn ioga yw Anantasana (Sansgrit: अनन्तासन; IAST : Anantāsana), Vishnu'n Cysgu[1] neu'r Tragwyddol Un [2] ac fe'i ceir heddiw mewn ymarferion ioga modern fel ymarfer corff.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Cerflun o Vishnu yn cysgu ar y sarff anfeidrol. O Deml Huchchappaiyya Gudi, Aihole, Bagalkot, Karnataka, 7g.

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit anantā (अनन्त) sy'n golygu "heb ddiwedd" neu "yr un anfeidrol", am y sarff pen-mil Shesha y gorweddai Vishnu arni ar waelod y cefnfor primordial,[3] a āsana (आसन) sy'n golygu "osgo" neu "sedd".[4]

Darluniwyd asana lledorwedd gwahanol o'r enw Anantasana yn Sritattvanidhi yn y 19g.[5] Disgrifir yr asana modern yn Light on Yoga 1966.[3]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae Anantasana'n ddatblygiad naturiol o'r asana gorwedd. Cynhelir y pen ag un llaw, y fraich uchaf ar y llawr ar yr ochr honno; mae'r llaw arall a'r goes yn cael eu hymestyn yn syth i fyny, y bysedd yn gafael ym mus bawd mawr y droed uchel. Mae'r fraich gynhaliol, y corff, a'r goes isaf mewn llinell syth.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Anantasana". Yoga Journal. Cyrchwyd 28 Ionawr 2019.
  2. 2.0 2.1 "Side-Reclining Leg Lift". Yoga Journal. 3 Mehefin 2008.
  3. 3.0 3.1 Iyengar, B. K. S. (1977) [1966]. Light on yoga: yoga dipika. Schocken Books. t. 246. ISBN 978-0-8052-1031-6.
  4. Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  5. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace (arg. 2nd). Abhinav Publications. tt. 69 and plate 1 (pose 1). ISBN 81-7017-389-2.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]