Parighasana (Y Glwyd)

Oddi ar Wicipedia
Parighasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas sefyll, asanas penlinio Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana penlinio, ac osgo'r corff o fewn ioga yw Parighasana neu Y Glwyd[1]. Caiff yr asana hwn ei ddefnyddio'n aml mewn ioga modern ac mewn ymarfer cadw'n heini.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw enw'r asana o'r Sansgrit परिघासन Parighāsana, sydd yn ei dro'n deillio o परिघ parigha, sy'n golygu "porth" ac आस āsana, sy'n golygu "osgo rhywun" neu "safle'r corff".[2]

Nid yw'r asana hwn yn hysbys cyn yr 20g. Oherwydd, fel y mae'r ysgolhaig ioga Mark Singleton yn ei ddweud, mae'n debyg iawn i asana a ddefnyddiwyd mewn gymnasteg fodern, fel Gymnasteg Gynradd 1924 Niels Bukh,[3] ac mae'n debygol i hyn ddylanwadu arKrishnamacharya; nid oes unrhyw awgrym iddo ei gopïo'n uniongyrchol o Bukh.[4]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r asana yma'n dilyn safle penlinio unionsyth: dylid ymestyn un goes yn syth i'r ochr, mae'r breichiau'n cael eu hymestyn i'r ochr hefyd, ac mae'r corff yn cael ei ymestyn i ochr y goes estynedig nes bod y fraich yn gorwedd ar hyd y goes. Gall y fraich arall gael ei hymestyn i fyny ochr yn ochr â'r pen, a gall y llaw orwedd yn y pen draw ar ben y llaw arall a'r droed.[5][6][7][8]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Gall dechreuwyr weithio yn yr osgo yma gyda sawdl troed y goes syth wedi'i chynnal ar flanced neu fag tywod wedi'i blygu, neu drwy wthio'r droed yn erbyn wal.[7]

Gall ymarferwyr ag anaf i'r pen-glin weithio ar Parighasana gan eistedd ar gadair, gydag un goes wedi'i hymestyn i'r ochr.[7]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Bukh, Niels (2010) [1924]. Primary Gymnastics. Tufts Press. ISBN 978-1446527351.
  • Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks.
  • Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley.
  • Mittra, Dharma (2003). Asanas: 608 Yoga Poses. ISBN 978-1-57731-402-8.
  • Rhodes, Darren (2016). Yoga Resource Practice Manual. Tirtha Studios. ISBN 978-0983688396.
  • Singleton, Mark (2010). Yoga Body: The Origins of Modern Posture Practice. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-539534-1. OCLC 318191988.#

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gate | Parighasana". Yoga Basics. Cyrchwyd 24 April 2019.
  2. Mehta 1990, t. 48.
  3. Bukh 2010.
  4. Singleton 2010.
  5. Iyengar 1979.
  6. Mehta 1990.
  7. 7.0 7.1 7.2 YJ Editors (28 Awst 2007). "Gate Pose". Yoga Journal. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "YJ" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  8. Herring, Barbara Kaplan (28 Awst 2007). "Taking Sides: Gate Pose". Yoga Journal.