Bidalasana (Y Gath)

Oddi ar Wicipedia
Bidalasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas penlinio Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana, neu osgo mewn ymarferion ioga yw Bidalasana (Sansgrit: बिडालासन; IAST: biḍālāsana) neu Marjariasana (biḍālāsana; IAST mārjarīāsana), mae'r ddau enw'n golygu asana'r Gath. Asana penlinio ydyw, ac fe'i ceir mewn ymarferion ioga modern fel ymarfer corff.[1]

Amrywiad[golygu | golygu cod]

  1. Amrywiad gydag un goes wedi'i ddal allan yw Vyaghrasana (Sansgrit: व्याघ्रासन; IAST: vyaghrāsana), asana'r Teigr.
  2. Amrywiad gyda'r cefn wedi ei ostwng yw Bitilasana (Sansgrit: बितिलासन; IAST bitilāsana), y Fuwch. Defnyddir yr asana hwn yn aml fel gwrth-asana, ac ymarferiad a ddefnyddir yn aml yw newid rhwng y Gath a'r Fuwch dro ar ôl tro.
Y gwrth- osgo, Bitilasana (Y Fuwch)

Mae asana gwahanol, Marjarottanasana, sy'n golygu siap y gath, wyneb i waered, i'w weld yn Sritattvanidhi yn y 19g.[2]

Rhestrir ystum o'r enw Vyaghrasana neu asana'r teigr ond nid yw wedi'i ddisgrifio yn Hatha Ratnavali o'r 17g.[3]

Mae'r ystum yn cael ei ystyried yn Sivananda Yoga i fod yn addas i'w ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd.[4][5]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Vyaghrasana (Y Teigr), gyda choes syth

Mewn amrywiadau o'r ystum, mae un goes yn cael ei hymestyn yn syth yn ôl, ac yna gellir plygu pen-glin y goes estynedig fel bod y droed yn pwyntio'n syth i fyny; gellir estyn y llaw gyferbyn hefyd; gelwir hwn yn Vyaghrasana (Y Teigr).[6][7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. YJ Editors (28 Awst 2007). "Cat Pose - Marjaryasana". Yoga Journal.
  2. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 81 and plate 14 (pose 82). ISBN 81-7017-389-2.
  3. Srinivasa, Narinder (2002). Gharote, M. L.; Devnath, Parimal; Jha, Vijay Kant (gol.). Hatha Ratnavali Srinivasayogi | A Treatise On Hathayoga (arg. 1). The Lonavla Yoga Institute. tt. 98–122 asanas listed, Figures of asanas in unnumbered pages between pages 153 and 154, asanas named but not described in text listed on pages 157–159. ISBN 81-901176-96.
  4. Lidell, Lucy; The Sivananda Yoga Centre (1983). The book of yoga. Ebury. t. 166. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
  5. Holstein, Barbara B. (1988). Shaping Up for a Healthy Pregnancy. Life Enhancement Publications. t. 76. ISBN 978-0-87322-926-5.
  6. "Vyaghrasana – Tiger Pose". Pranayoga. 27 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 4 Chwefror 2019.
  7. "Vyaghrasana | The Tiger". Yoga in Daily Life. Cyrchwyd 29 Mawrth 2019.