Neidio i'r cynnwys

Navasana (Y Cwch)

Oddi ar Wicipedia
Navasana
Enghraifft o:asana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana, neu osgo mewn ymarferion ioga yw Navasana, Naukasana, y Cwch, neu Paripurna Navasana (Sansgrit: परिपूर्णनावासन; IAST: paripūrṇanāvāsana "Y Cwch yn llawn"). Asana cydbwyso ac asana eisteddyw'r osgo yma, ac fe'i ceir mewn ioga modern fel ymarfer corff.[1]

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit नाव nava sy'n golygu "cwch" ac आसन asana sy'n golygu "osgo" neu "siâp y corff".[2][3]

Darluniwyd yr asana hwn yn Sritattvanidhi testun o'r 19g dan yr enw Naukāsana, sydd hefyd yn golygu asana cwch.[4]

Amrywiadau

[golygu | golygu cod]
Ardha Navasana

Ymhlith yr amrywiadau mae'r Ardha Navasana sydd gryn dipyn yn haws (Sansgrit: अर्धनावासन; "Hanner cwch") gyda thraed a chorff yn hanner codi o'r llawr,[5] ac Eka Pada Navasana ("cwch ungoes").

Amrywiad arall: Ubhaya Padangusthasana

Mae gan yr asana anoddach Ubhaya Padangusthasana ddwy law yn gafael ym mysedd y traed neu'r traed eu hunain.[6]

Mae'n debyg iawn i Paschimottanasana.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Yoga Journal - Full Boat Pose". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-28. Cyrchwyd 2011-04-09.
  2. Active Interest Media (1996). Yoga Journal. Active Interest Media. t. 51. ISSN 0191-0965.
  3. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  4. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. t. 69. ISBN 81-7017-389-2.
  5. "Ardha Navasana (Half Boat Pose)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-02-03. Cyrchwyd 2011-04-09.
  6. Halweil, Erika (26 Chwefror 2018). "Challenge Pose: Ubhaya Padangusthasana". Yoga Journal.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]