Neidio i'r cynnwys

Utkatasana (Y Gadair)

Oddi ar Wicipedia
Utkatasana
Enghraifft o:asana Edit this on Wikidata
Mathasanas sefyll, ioga Hatha Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana, neu osgo mewn ymarferion ioga yw Utkatasana (Sansgrit: उत्कटासन; IAST: Utkaṭāsana), Y Gadair,[1] sy'n asana sefyll. Fe'i defnyddir mewn ioga modern fel ymarfer corff.[2] Fe'i ceir ers canrifoedd, lle mae'r iogi yn ei gwrcwd ac fe'i disgrifir mewn hatha ioga canoloesol.[3]

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit utkaṭa (उत्कट) sy'n golygu "gwyllt, brawychus, uwchlaw'r arferol, dwys, enfawr, cynddeiriog, neu drwm",[4] ac âsana (आसन) sy'n golygu "osgo'r corff" neu "eistedd".[5]

Dangosir Utkatasana fel asana cyrcydu yn Sritattvanidhi yn y 19g

Dywedir bod yr asana modern tebyg i gadair yn tarddu o Krishnamacharya.[6] Ond ceir fersiwn hŷn o'r ystum, gyda'r iogi ar ei gwrcwd yn is i lawr ar y sodlau mewn osgo sy'n debyg iawn i Upaveshasana, ac fe'i darlunir yn Sritattvanidhi o'r 19g.[3]

Amrywiadau

[golygu | golygu cod]

Mae gan Ardha Utkatasana y pengliniau wedi'u plygu'n debycach i ongl sgwâr felly mae'r cluniau bron yn gyfochrog â'r llawr, ac mae'r corff ar oleddf ymlaen yn nes at y cluniau.[7]

Yr amrywiad cylchdro yw'r Parivritta Utkatasana lle mae'r dwylo'n cael eu gwasgu at ei gilydd o flaen y frest yn Mwdra Anjali (dwylo mewn gweddi), a'r penelin isaf yn cael ei wthio'n erbyn y tu allan i'r pen-glin gyferbyn, ac mae'r llygaid a'r meddwl yn cael eu cyfeirio i fyny.[7]

Mae gan Utkata Konasana (y Dduwies), y coesau'n llydan agored, a'r traed yn troi allan yn unol â'r cluniau, a'r pengliniau hwythau wedi plygu. Mae'r breichiau fel arfer yn cael eu codi gyda'r penelinoedd, wedi'u plygu; gellir hefyd wrth amrywiadau lle mae'r breichiau'n syth i fyny, neu gall y dwylo gael eu dal mewn gweddi Añjali Mudrā, a hynny o flaen y frest.[8][9]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Chair Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 11 April 2011.
  2. Budilovsky, Joan; Adamson, Eve (2000). The complete idiot's guide to yoga (arg. 2). Penguin. t. 149. ISBN 978-0-02-863970-3.
  3. 3.0 3.1 Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 83, plate 17. ISBN 81-7017-389-2.
  4. "Utkatasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-05. Cyrchwyd 18 Ionawr 2019.
  5. Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  6. "Utkatasana | Chair Pose". Akasha Yoga Academy. Cyrchwyd 1 Ionawr 2019.
  7. 7.0 7.1 Bauman, Alisa (2004). "Yoga Conditioning: Get a Leg Up". Yoga Journal (September/October 2004): 71–77. ISSN 0191-0965. https://books.google.com/books?id=4OkDAAAAMBAJ&pg=PA73.
  8. "Utkata Konasana: Goddess Pose". Gaia. Cyrchwyd 16 Hydref 2019.
  9. "A Creative Sequence to Help You Navigate Tough Emotions: 7/16 Utkata Konasana". Yoga Journal. 17 Mawrth 2016.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]