Pasasana (Y Fagl)

Oddi ar Wicipedia
Pasasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana, neu osgo'r corff, o fewn ioga yw Pasasana (Sansgrit: पाशासन; IAST: pāśāsana) neu'r Fagl.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o'r gair Sansgrit पाश, pāśa sy'n golygu "magl " neu "ddolen mewn rhaff ",[1] ac आसन, asana sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff".[2]

Disgrifir a darlunnir yr asana yn Sritattvanidhi yn y 19g a disgrifir ystum ychydig yn wahanol yn Light on Yoga yn 1966.[3]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Yn yr asana hwn, mae'r corff dynol yn creu 'cwlwm' neu 'magl' pan fydd yr ymarferydd (yr iogi) yn lapio'i freichiau o amgylch ei goesau sydd ar gwrcwd (o Upavesasana) gyda'i ddwylo wedi'u clymu y tu ôl i'w gefn, tra'n troi i un ochr.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pashasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Awst 2012. Cyrchwyd 27 Ionawr 2019.
  2. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  3. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 76, plate 8 (pose 47). ISBN 81-7017-389-2.
  4. Iyengar 1991, tt. 267–270.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]