Parshvottanasana
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asana, neu osgo'r corff o fewn ioga yw Parshvottanasana (Sansgrit: पार्श्वोत्तानासना, IAST: Pārśvottānāsana) neu Ymestyn dwys i'r Ochr. Fe'i ceir mewn ymarferion ioga modern er mwyn cadw'n heini.
Geirdarddiad[golygu | golygu cod]
Daw enw'r asana yma o'r Sansgrit प्रसव (parshva) sy'n golygu "ochr", ुत (ut) sy'n golygu "dwys", तन (tan) sy'n golygu "ymestyn", ac आस (asana), sy'n golygu "osg" neu "sfale'r corff".[1]
Nid yw'r asana hwn yn hysbys mewn ioga hatha canoloesol, ond fe'i disgrifir yn Yoga Makaranda Krishnamacharya ym 1935, ac fe'i cymerwyd gan ei ddisgyblion Pattabhi Jois a BKS Iyengar yn eu hysgolion ioga nodedig.[2] Ceir asana tebyg yn Primary Gymnastics 1924 Niels Bukh; awgryma Mark Singleton bod Krishnamacharya, a ddylanwadwyd gan ddiwylliant gymnasteg cyffredinol y cyfnod, wedi mabwysiadu gymnasteg i'w arddull llifeiriol o ioga, lle ceir dilyniant o asanas.[3]
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Mae'r asana yma'n datblygu'n naturiol o Tadasana. Rhoddir y dwylo gyda'i gilydd mewn safle gweddi, y tu ôl i'r cefn, blaenau bysedd i fyny. Mae'r traed yn cael eu gosod mewn ongl sgwâr i'w gilydd, y ddwy goes yn syth. Dylai'r troed blaen bwyntio'n syth ymlaen; mae'r droed ôl yn cael ei throi ymlaen tua 60 gradd a'r cluniau wedi'u halinio ar ongl sgwâr i'r traed, fel bod y corff yn gallu symud i lawr mewn tro ymlaen yn syth dros y goes flaen[4][1] Gellir mynd â'r dwylo i'r llawr i ddwysau'r ymestyn.[5]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- LIyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks.
- Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley.
- Mittra, Dharma (2003). Asanas: 608 Yoga Poses. ISBN 978-1-57731-402-8.
- Rhodes, Darren (2016). Yoga Resource Practice Manual. Tirtha Studios. ISBN 978-0983688396.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Mehta 1990.
- ↑ Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 100–102. ISBN 81-7017-389-2.
- ↑ Bukh, Niels (2010) [1924]. Primary Gymnastics. Tufts Press. ISBN 978-1446527351.
- ↑ Iyengar 1979.
- ↑ YJ Editors (28 Awst 2007). "Intense Side Stretch Pose". Yoga Journal.