Astavakrasana (Wyth-ongl)

Oddi ar Wicipedia
Astavakrasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas cydbwyso Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana cydbwyso mewn ioga modern yw Astavakrasana[1] (Sansgrit: अष्टावक्रासन; IAST : Aṣṭāvakrāsana) neu Asana Wyth-ongl[2]. Rhoddwyd yr enw ar y safle hwn er anrhydedd i'r gwrw Astavakra, gwrw ysbrydol y Brenin Janaka.[3]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit अष्टा ashta sy'n golygu "wyth", वक्र vakra sy'n golygu "plygu, crwm", ac आसन asana sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff". Cysylltir hefyd gyda'r doethor Astavakra.[3]

Nid oedd yr asana (neu 'osgo') yma'n hysbys yn ioga hatha tan tan y cyhoeddwyd Light on Yoga yn yr 20g ond mae'r osgo'n ymddangos yn Vyayama Dipika yn 1896, llawlyfr gymnasteg, felly mae Norman Sjoman yn awgrymu ei fod yn un o'r asanas a fabwysiadwyd o fewn ioga modern yn Mysore gan Krishnamacharya, a thrwyddo i'w ddau ddisgybl disglair, Pattabhi Jois a BKS Iyengar.[4]

Mytholeg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Astavakra gydag wyth anfantais gorfforol. Paentiad o'r 19g

Yn ôl Light on Yoga gan BKS Iyengar, credwyd mai Astavakra oedd gwrw ysbrydol y Brenin Janaka, tad Sita. Pan oedd yng nghroth ei fam, adroddodd ei dad (Kagola) y Vedas yn anghywir, gan wneud i'r plentyn yn y groth chwerthin. Melltithiwyd Kagola'r babi gan achosi iddo gael ei eni wedi'i blygu mewn wyth lle, ystyr "Astavakra" yw wyth tro. Trechwyd Kagola mewn dadl ag ysgolhaig y llys, Vandi. Curodd yr Astavakra ifanc Vandi mewn dadl, a daeth yn gwrw i Janaka. Bendithiodd ei dad ef am hyn, a diflannodd ei anffurfiad.[3]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae Astavakrasana yn cydbwyso'r corff ar y dwylo, gyda thro ochr. Mae'r ystum yn datblygu'n safle cwrcwd, un fraich rhwng y traed, y llall ychydig y tu allan i'r droed arall, cledrau ar y llawr. Mae gwthio i fyny a chodi'r ddwy goes o'r llawr yn rhoi safle amrywiol neu baratoadol, gyda'r ddwy goes yn plygu, un goes dros un fraich, y goes arall wedi'i chroesi dros y cyntaf wrth y ffêr. Mae sythu'r coesau yn rhoi'r asana llawn.[3][5][6][7]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Asta Vakrasana". Yoga Vastu. October 2020.
  2. Eight-Angle Pose; Yoga Journal
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Iyengar, B. K. S. (1966). Light on Yoga. HarperCollins. tt. 276–277. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Light on Yoga" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  4. Sjoman, Norman E. (1999). The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 55, 100–101. ISBN 81-7017-389-2.
  5. Schumacher, John (28 Awst 2007). "Astavakrasana (Eight-Angle Pose)". Yoga Journal.
  6. "Astavakrasana - Eight angled pose". itsafablife.com. 25 Gorffennaf 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 April 2017. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2015.
  7. YJ Editors (22 April 2008). "Eight-Angle Pose". Yoga Journal.YJ Editors (22 April 2008). "Eight-Angle Pose". Yoga Journal.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]